Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y llinellau uchod, cyfeiria Dafydd Nanmor at wyrthiau Beuno— ei allu i godi y marw yn fyw. Yn y llinellau a ganlyn ceir disgrifiad byw o "oes fodlon ar Ddefod" gan Eben Fardd.

Monachdy heb ddim nychdod,—sefydliad
Oes fodlon ar Ddefod;
Pawb yn y clyw'n byw a bod
Ar rywbeth dd'wedai'r Abod.[1]

Caergybi.—Sefydlwyd mynachdy Caergybi gan Gybi Sant. Dywedir ei fod yn ddisgynnydd o deulu bonheddig yng Nghernyw, ac fod ei dad yn Wledig ac yn frenhin lleol yng Nghernyw. Anghytunir mewn perthynas i'w achau. Yn ol yr achau Cymreig, disgynnai o Gystenyn Gorneu—"ap Gereint ap Erbin ap Cystennyn Gorneu"; yn ol eraill disgynnai o Selyf "ap Gereint ab Erbin ap Lludd," y gwr osodir allan fel adeiladydd Caer-ludd—Llundain. Y golygiad cyntaf yw yr un dderbynnir yn fwyaf cyffredinol, yn ol hwn yr oedd Cybi yn gefnder i Dewi Sant. Yr oedd ei fam Gwen yn chwaer i Nôn mam Dewi o Fynyw. Bu Cybi yng Nghernyw hyd ei seithfed flwydd ar hugain, pryd yr aeth ar daith i Jerusalem. Wedi dychwelyd i'r wlad hon, bu yn ymdeithio yng Nghernyw, Morgannwg, Porthmawr, yn agos i Dyddewi, a'r Iwerddon. Ymadawodd o'r Iwerddon oherwydd anghydwelediad rhyngddo â Fintan, a daeth mewn cwrwgl, efe a'i ddisgyblion, i Gymru, ac wedi glanio ohono sefydlodd eglwys yn Llangybi yn agos i Bwllheli. Yr oedd Maelgwn Gwynedd ar y cyntaf yn wrthwynebol iddo, ond yn ddiweddarach daethant yn gyfeillion, a rhoddodd y brenin iddo y lle yr adeiladodd Cybi fynachdy arno wedi hynny. Bu Cybi farw oddeutu canol y chweched ganrif, a chladdwyd ef yng Nghaergybi. Cysylltir ei enw â thair o eglwysi eraill yng Nghymru: Llangybi yn Arfon, Llangybi yng Ngheredigion, a Llangybi ym Mynwy.

Ychydig iawn o ddefnyddiau hanes Mynachlog Caergybi sydd ar gael o adeg marw Cybi hyd "Drethiad Nicolas" yn y flwyddyn 1291. Rywbryd cyn y dyddiad yna, yr oedd y sefydliad wedi ei wneud yn eglwys golegaidd[2] yn debyg i'r hyn gymerodd le ynglŷn â Chlynnog. Gwaddolwyd Caergybi gan Ruffydd ab Cynan; perthynai i'r sefydliad bedwar o ganoniaid, ond yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gwnaed y nifer yn ddeuddeg. Y Goron wnai yr apwyntiadau yng Nghaergybi fel yng Nghlynnog. Yr oedd cysylltiad agos rhwng y ddau sefydliad, yn fynych apwyntid yr un person yn ganon i'r naill sefydliad a'r llall,[3] a'r tebygrwydd yw mai yr un oedd y "rheol buchedd" y cydymffurfient a hi yn y ddau sefydliad; a phan gollasant eu cymeriad colegaidd cysylltwyd hwy â Choleg Iesu, Rhydychen. Mae hanes sefydliad eglwysig Caergybi yn hynod bwysig yn y cyfnod rhwng Trethiad Nicolas a diddymiad y mynachdai, am y ceir ynddo ddrych o gysylltiad y "tylwyth " a'r eglwys" yng nghyfundrefn eglwysig y Cymry. Fel y gwelwyd

  1. Cyff Beuno, td. 37: Eben Fardd.
  2. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 597; Monasticon Anglicanum, vi. 1475.
  3. Cymmrodr, vol. xix., p. 71.