Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn pennod flaenorol,[1] yn ol cyfundrefn Eglwys Rhufain, rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth —tylwyth y tir, a thylwyth y sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth; y tylwyth oedd y pwynt cychwyn yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd. Gwelir yr egwyddor ar waith yn eglwys golegaidd Caergybi.[2] Mae ar gael ysgrif berthynol i'r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ynddi restr o enwau y deuddeg canon wasanaethai eglwys Caergybi o fewn y cyfnod, ac enwau eu noddwyr. Cynrychiolai y noddwyr hyn wahanol "genhedloedd" yn yr ystyr roddir i'r gair yng Nghyfreithiau Cymru, a "gwelyau" yn yr ystyr roddir iddo yn y Cyfreithiau. Y "gwely" oedd y tir berthynai i'r "genedl" neu i gorff o bobl edrychent ar berson neilltuol fel eu hynafiad cyffredin—yr un y cawsant eu bod ohono. Yr wyth "genedl" apwyntient ganoniaid Caergybi oedd cenedl Cadwgan ab Llywarch, cenedl Madog ab Llywarch, cenedl Iorwerth ab Llywarch, cenedl Bledrws ab Hwfa, cenedl Cyfnerth ab Hwfa, cenedl Ieuan ab Hwfa, cenedl Iorwerth ab Hwfa, a chenedl Gronwy ab Iorwerth.[3] Caergybi yw yr engraifft gliriaf sydd wedi dod i'r goleu hyd yn hyn o eglwys a'i hapwyntiadau yn cael eu gwneud gan gynrychiolwyr perchenogion y tiroedd gymerid i mewn fel maes arolygiaeth yr eglwys; ond fel y bydd gwybodaeth yn eangu a ymchwiliad yn mynd rhagddo yn y cyfeiriad hwn, hwyrach y gwelir nad oedd ond un ymysg lliaws. Mae Gerallt Gymro yn tystiolaethu mai hon oedd yr egwyddor y gweithredid yn ei hol yn ei ddyddiau ef.[4]

Llanelwy—Sant Asa, Sant Asaf. Yr enw cyntaf ynglŷn â sefydliad eglwysig Llanelwy ydyw Cyndeyrn. Yn ol achau y saint Cymreig, mab oedd Cyndeyrn i Owain ab Urien, o gyff Coel Godebog. Cyfeirir ato yn achlysurol fel Cyndeyrn Garthwys. Yr oedd i'w dad Owain a'i daid Urien Rheged le amlwg mewn hanes a rhamant. Dygwyd Cyndeyrn i fyny dan ofal Sant Serf, ac efe oedd yr anwylaf o'i holl ddisgyblion. Pan yn bump ar hugain, ar ddymuniad Morcen, brenin Ystrad Clwyd, gwnaed Cyndeyrn yn esgob. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, sylwodd Cyndeyrn fod Morcen yn llai ffafriol iddo, ac wedi marw y brenin, credei fod ym mryd ei olynwyr ei roddi i farwolaeth, ac er osgoi hyn diangodd Cyndeyrn i Gymru am noddfa, a chroesawyd ef gan Dewi Sant ym Mynyw. Gwahoddodd Cadwallon Law Hir Cyndeyrn i'r dalaeth lywodraethid ganddo ef, a derbyniodd yntau y gwahoddiad, ac ymsefydlodd ar lan yr afon Elwy oddeutu flwyddyn 560, a sefydlodd Goleg, neu Ysgol Fynachaidd yno, a dywedir i'r sefydliad gynyddu cymaint

  1. Pennod i.
  2. The Tribal System in Wales, p. 232: F. Seebohm.
  3. Portionary Churches of Medieval North Wales: A. N. Palmer, pp. 3, 6.
  4. Topography of Wales, book ii. chap. 6: Giraldus Cambrensis.