Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

PENNOD VII.

DIRYWIAD A DIDDYMIAD Y MYNACHDAI.

YMGYFYD y cwestiwn yn y meddwl, pa fodd y gellir cyfrif am waith y wlad yn dygymod â'r syniad am ddiddymu sefydliad fu mor wasanaethgar iddi ag a fu Mynachaeth ? Hanes y wlad, ac yn neilltuol hanes Mynachaeth yng nghanrifoedd diweddaf y sef- ydliad, etyb y cwestiwn hwn. Bu cyfuniad o amgylchiadau ar waith er dwyn hyn oddiamgylch, a choisir eu holrain yn y bennod hon. Ymlaenaf oll, bu y cynhyrfiad ddisgrifir fel y Dadeni yn elfen bwysig. Un o ganlyniadau cyntaf y Dadeni oedd y dyddordeb newydd ddechreuid deimlo mewn llenyddiaeth glasurol,-maes esgeuluswyd bron yn llwyr yn ystod tywyllwch y Canol Oesoedd. Penderfynwyd mynd yn ol at yr hen am ysbrydiaeth, ac nid cyfyngu eu hunain yn ormodol, fel y gwnaethant hyd yma, i weithiau Jerome ac Awstin-dau nodweddiadol o'r cyfnod oedd yr adeg hon yn prysur derfynu; tybiai y blaenaf nas gallai un fod yn Gristion ac ar yr un pryd yn edmygydd o Cicero, tra nas gallai y diweddaf faddeu iddo ei hunan am yr amser gollodd yn darllen Homer & Virgil. O astudio llenyddiaeth Rhufain, a Groeg wedi hynny, daeth syniad eangach am fywyd; gwelwyd mai anfantais oedd ei gyfyngu a'i gaethiwo i ryw rychau neilltuol, a theimlwyd mai eu dyledswydd oedd ei fyw yn ei holl arweddion, gyda'r mwynhad a'r calondid mwyaf. O gael golwg newydd ar fywyd, cododd gwrthryfel yn erbyn llyffetheiriau eglwys a thraddodiad,-yn erbyn pob peth ymddanghosai fel yn cyfyngu bywyd. gynrychiolai y myneich blaid y llyffetheiriau,--y blaid fynnai gyf- yngu bywyd, a chododd teimlad yn eu herbyn; hawliwyd yr hyn sydd naturiol mewn crefydd ac mewn pob cysylltiad arall. Ni cheir gwell engraifft yn unman o'r gwrthdystiad wnaed yn erbyn bywyd y myneich yn y bedwaredd ganrif ar ddeg na gweithiau Dafydd ab Gwilym. Plentyn y cynhyrfiad newydd oedd ef. Ni chredai of fod crefydd yn gofyn i unrhyw un fod yn anaturiol. Yr oedd yn rhy naturiol i oddef y myneich a'u crefydd. Gwyddai ef fod anian yn waith llaw y Creawdwr, ac am hynny credai mai nid pechod oedd i ddyn arfer yn briodol y pethau da a grewyd iddo gan Dduw. Dyry y llinellau a ganlyn syniad i ni am y safle gymerai ac am ei wrthwynebiad i Fynachaoth ei oes :-

Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hon ddynion;
Ond celwydd yr offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd.