Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y geiriau a ganlyn: "Y myneich oedd wyr llen y Canol Oesoedd, hwy oedd haneswyr, cyfreithwyr, athronwyr, meddygon, efrydwyr natur, sefydlwyr ysgolion, awdwyr croniclau, athrawon mewn amaethyddiaeth, yr oeddynt yn dirfeddianwyr caredig a theg, ac amcanent ddelio yn anrhydeddus â'r mân amaethwyr ddalient ffermydd odditanynt."[1] Credir, hefyd, y bu i Fynachaeth, yn neilltuol y ffurf Cisterciaidd arni, ddylanwad anuniongyrchol ar ffurfiad y Cyfansoddiad Prydeinig. Pan yr oedd y sefydliadau Cisterciaidd ar eu cryfaf yn y wlad hon yr oedd y Cyfansoddiad Prydeinig yn araf ymffurfio. Fel y gwelwyd, fe nodweddid y sefydliadau hyn gan lawer o anibyniaeth, trafodent eu hachosion eu hunain heb lawer o ymyriad o'r tu allan, ond nid yn gwbl felly; perthynai i'r urdd fath o Gymanfa Gyffredinol wneid i fyny o abadau y gwahanol fynachdai; yn y Cymanfaoedd hyn fe gyfnewidiai y sefydliadau syniadau gyda golwg ar y modd i ddwyn y gwaith ymlaen, fe gyfatalient eu gilydd. Fe gyfunai y gyfundrefn ddwy egwyddor bwysig,—rhyddid i bob sefydliad i gymeryd ei lwybr ei hunan, ond cedwid y duedd hon rhag rhedeg i eithafion drwy gydnabod gallu canolog o'r tu allan. Dyna'r ffurf gymerodd y Cyfansoddiad Prydeinig yntau wrth ddatblygu—ceisio cyfuno y ddwy egwyddor y cyfeiriwyd atynt, ond rhoddi y pwys mwyaf ar hawl y bobl i benderfynu drostynt eu hunain pa gwrs a gymerent mewn gwahanol amgylchiadau. Mae Llywodraeth Prydain mewn gwirionedd yn Llywodraeth werinol; oblegid, er ei bod hi o ran ei ffurf yn frenhiniaeth, a bod elfennau pendefigol ynddi hefyd, eto llais corff y bobl yn y diwedd a orfydd.

  1. Henry VIII. and the English Monasteries, p. 462: F. A. Gasquet. Pennod i.