Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

47

fynych ou hochr gyda'r Cymry yn erbyn y Saeson, yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am Gonwy, Ystrad Fflur, Cwm Hir, a'r Cymmer. Amddiffynent hawliau rhandiroedd y ceisid mynd a'u hiawnderau oddiarnynt. "Ac obyt a amhouho vn or breynheu hone, clas Bancor arey Bouno as Reydu." Gwnaethant wasanaeth rhagorol i'r genedl drwy ofalu am y tlodion, a hynny ar adeg nad oedd yr un ddarpariaeth arall ar cu cyfer. Yn eu hadeg, hwy oedd y sefydliadau wnaent y gwaith tebycaf i'r hyn a wneir gan Fyrddau Gwarcheidwaid y dyddiau hyn. Yr oedd elusenwyr ynglŷn â'r mynachdy a'u gwaith, a'u dyledswydd hwy oedd gweini i'r tlodion fel na byddai angen ar neb. Ymwelent hefyd â'r trigolion. Yr oeddynt yn ddoeth iawn yn eu hymwneud â'r tlodion. Os byddai ymysg y rhai a ofynai elusen rywrai wedi gweled dyddiau gwell ac yn anfoddlon i aros yn yr elusendy gyda'r tlodion, parchent eu teimladau, a rhoddent gymorth iddynt. Egwyddor yr out-door- relief yn cael ei chydnabod. Colled ddirfawr i dlodion y wlad oedd diddymu y mynachdai, a bu raid gwneud darpariaeth ar ran y llywodraeth i ddwyn ymlaen y gwaith wneid mor ddistaw a diym- hongar gan y mynachdai.3 Gwnaeth y myneich lawer i wella amaethyddiaeth y wlad. Wedi iddynt ymsefydlu mewn rhyw gwr gwyllt, anghysbell, o'r wlad, ymroent ati i wella y tir o gwmpas y sefydliad. Byddai yr anialwch a'r anghyfaneddle yn llawenychu o'u plegid, gorfoleddai y difaethweh a blodeuai fel rhosyn. Lle nad oedd unwaith ond eithin a grug, gwelid gerddi a gwinllanoedd a thir ffrwythlawn yn ymddangos. Yr oedd y myneich yn hynod ar gyfrif eu lletygarwch. Y mynachdai oedd y gwestai-y mannau aros i dlawd a chyfoethog yn y Canol Oesoedd, yn neilltuol y mynachdai hynny a safent ar y prif-ffyrdd rhwng lleoedd pwysig, megis Margam ar y ffordd rhwng Bristol a'r Iwerddon. Apwyntid swyddog neilltuol-guest master-i groesawu y dieithriaid ac i ofalu fod eu hangenion yn cael eu diwallu, gofelid am ddyn o gallineb eithriadol i'r swydd hon, yr oedd i gofio bob amser y gwneir cyfeill- ion drwy eiriau mwyn, a gelynion drwy eiriau geirwon. Ni raid ond darllen y Mabinogion er gweled fod Cymry y Canol Oesoedd yn feistriaid ar y gelfyddyd o groesawu dieithriaid. Yr oedd yn y mynachdy ran wedi ei neilltuo at wasanaeth y rhai ddouant ar ymdaith. Yr oedd y dieithriaid i'w derbyn fel Crist ei hunan. Bu'r mynachdai yn ddefnyddiol lawer tro drwy wneud y gwaith a wneir gan ariandai y wlad mewn amseroedd diweddarach. A chadwyd ysbryd celf yn fyw yn eu mysg, fel y gwelir yn amlwg oddiwrth olion eu hadeiladau, eu darluniau a'r llythronnau artistig a geir mewn hen lawysgrifau gynyrchwyd ganddynt. Symir i fyny ddylanwad y mynoich ar y wlad gan Mr. Thorold Rogers yn

Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 121.
History of Friars Schools, p. 15: Barber and Lewis.
English Monastic Life, p. 91: F. A. Gasquet.
Henry VIII. and the English Monasteries, p. 466: F. A. Gasquet.
Oxford Studies in Social and Legal History, Vinogradoff, bk. ii., ch. iii. Giraldus Cambrensis,
iv. Pref. xxxvi.: S. J. Brewer.
Mediaval Wales, p. 115: A. G. Little.