Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru daeth yr ysbryd lywodraethai feddwl Ewrob i gyffyrddiad â'r meddwl Cymreig, ac eangodd cylch ei welediad. Gwnaethant wasanaeth gwerthfawr drwy y croniclau a gadwent. Ni chyfyngid y cofnodion i ffeithiau ddalient berthynas â'r sefydliad y cedwid y Croniel ynddo, ond rhoddent ar gof a chadw ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol. Un o groniclau pwysicaf y mynachdai Cymreig oedd yr eiddo Margam. Ymestyn y Cronicl hwn o'r flwyddyn 1066 hyd y flwyddyn 1232. Ysgrifennwyd ef yn y drydedd ganrif ar ddeg, a cheir ynddo lawer o gofnodion pwysig yn dal perthynas â Chymru, ystyrir ef yn un o'r awdurdodau ar hanes ein gwlad o fewn y cyfnod y mae yn ymwneud âg ef. Benthyciwyd y rhan gyntaf ohono-y ffeithiau gofnodir rhwng y blynyddoedd 1066 a 1147, o waith William o Malmesbury.¹ Bu cysylltiad agos rhwng mynachdy arall-Ystrad Fflur-âg un o'r croniclau pwysicaf yn hanes Cymru-yr Annales Cambria. Dyma, i raddau mawr, sylfaen yr hyn sydd gan groniclau eraill i'w ddweyd am ein hanes bore; ymestyn o'r flwyddyn 444 hyd y flwyddyn 954, a pharhawyd ef hyd y flwyddyn 1288. Ysgrifennwyd y rhan ddiweddaf ohono ym Mynachdy Ystrad Fflur. Y tebygrwydd ydyw i Frut y Tywysogion hefyd gael ei ysgrifennu yn Ystrad Fflur. I'r un dosbarth y perthyn "Llyfr Du Basing " a gyfansodd- wyd gan Guttyn Owain, bardd a chofnodydd Mynachdy Basingwerc. Eithriad yw cysylltu enwau â'r hen groniclau fel y gwneir yn yr amgylchiad hwn ynglŷn â "Llyfr Du Basing"; fel rheol, nid yw yn wybyddus pwy a'u hysgrifennodd; y drefn hon oedd yr un ddilynid, cedwid cyfrol yn yr ystafell ysgrifennu berthynai i'r mynachdy gyda nifer o ddalennau rhyddion yn y gyfrol, ar y dalennau rhyddion caniateid i unrhyw un wneud nodiadau o ddigwyddiadau ymddanghosai iddo ef yn bwysig; ar ddiwedd y flwyddyn trefnid i ryw un person neilltuol fyned drwy'r dalennau hyn gan wneud cofnodiad byr o'r pethau goreu oedd ynddynt i'w dodi yn y gyfrol, ac felly i'w trosglwyddo i lawr i oesoedd a ddeuai ar ol. Dyna'r modd y datblygai yr hen groniclau. Yn niwedd y ddeuddegfed ganrif y cymerodd y Mabinogion y ffurf lenyddol a berthyn iddynt yn awr, a thybir mai rhai o'r myneich a roddodd iddynt eu gwisg bresennol. Cysylltir Breuddwyd Rhonabwy â mynachdy Ystrad Marchell. I un o'r myneich-aner Llanddewi- bref yr ydym yn ddyledus am gorff o ddiwinyddiaeth y Canol Oesoedd yr Elucidarium. Ceir nodiad byr yn y llyfr ei hunan yn cyfrif am y modd yr ysgrifennwyd ef. "Gruffydd ab Llywelyn ab Phylip ab Traharn o'r Cantref Mawr, a barodd ysgrifennu y llyfr hwn drwy law cyfaill iddo, sef dyn oedd yn aner ar y pryd yn Llanddewivrevi ... yn y flwyddyn 1346." Mae nifer fawr o gywyddau Cymru yn y Canol Oesoedd a'u cyfeiriad at wahanol abadau. Gwelwyd mewn penodau blaenorol ddarfod i'r mynachdai. fod yn blaid i'r teimlad cenedlaethol. Cymerodd y mynachdai yn

The Cambridge History of Modern Literature, vol. i., p. 256: W. Lewis Jones. Sources of
History, p. 261: C. Gross.
The Celtic Review, Oct. 1007, p. 149: Edward Anwyl.
The Elucidarium, Introd, p. ix.: J. Morris Jones and John Rhys.