Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

PENNOD VI.-

Y GWASANAETH WNAED I'R WLAD GAN Y MYNEICH.

PA fudd fu o fynachaeth? Gellir ateb, llawer ymhob rhyw fodd. Gofalasant am grefydd y wlad pan nad oedd gennym yr un sefydliad arall i ofalu am hyn; cadwasant y lamp i gynneu, daliasant y faner i fyny, buont yn golofnau i gynnal achos crefydd yn y nos fu yn ei hanes. Gwnaeth yr hen fynachdai yn y cyfnod cyntaf waith rhagorol, parhawyd y gwaith gychwynwyd ganddynt hwy gan y sefydliadau Benedictaidd a Cisterciaidd, a dilynwyd hwythau gan wahanol adrannau y Brodyr Cardod. Dyma oedd eu prif waith, i hyn y codwyd hwynt-i gadw ysbryd crefydd yn fyw yn y wlad. Yn yr ymdrech hon gwnaethant lawer mwy, buont yn foddion i oleuo a gwareiddio y wlad, ac i ddwyn addysg o fewn ei chyrraedd. Dylid cofio, gyda diolchgarwch, mai'r myneich a'r sefydliadau gychwynwyd ganddynt roddodd gychwyn i'r gyfundrefn addysg ag yr ymffrostiwn ynddi, hwy fu'r pioneers. Gwnaed peth cyfeiriad at hyn mewn pennod flaenorol. Tybir i Dyfrig, Illtud, Padarn, ac eraill sefydlu nifer o ysgolion yn eu dydd hwy, -ysgolion hynodid ar gyfrif y nifer fawr o efrydwyr a'u mynychent, yn ogystal ac ar gyfrif y gwyr enwog fu mewn cysylltiad â hwy. Caniateid i wyr lleyg yn ogystal a gwyr eglwysig fyned i'r sefydl- iadau hyn. Bu'r myneich a'u sefydliadau ymysg prif noddwyr ein llenyddiaeth, hwy gadwent gân a chwedl, a hwy groniclent ffeithiau ddaeth wedi hynny yn ffynonellau ein hanes; yr oeddynt yn aml yn ddigon "ofergoelus, yn rhoddi cred mewn llawer chwedl ffol; eto iddynt hwy yn fwy na neb rhaid diolch am gadw ysbryd Cymru yn hoenus, a'i llenyddiaeth yn fyw drwy ganrifoedd o orthrwm a thywyllwch." Bu eu dylanwad ar ein llenyddiaeth yn fawr mewn amryw gyfeiriadau. Un diffyg fu yn hir mewn llenyddiaeth Gymreig ydyw cyfyngder cylch ei gwelediad. Pobl fuom fel Cymry yn preswylio ein hunain, ac heb ein cyfrif ynghyd a'r cenhedloedd." Fe gyfrifai ein safle ddaearyddol i ryw raddau am hyn. Ni ddylanwadodd cynhyrfiadau llenyddol Ewrob bob amser ar Gymru. Bu dylanwad y myneich ar ein llen- yddiaeth yn foddion i unioni i ryw raddau y duedd hon; buont yn ddolen gydiol rhwng bywyd Ewrob a bywyd Cymru, a rhoddas- ant gryn help i feddwl Cymru ddilyn meddwl Ewrob. Yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am fyneich yr ail gyfnod-cyfnod y sefydliadau Lladinaidd gysylltir yn fwyaf neilltuol â'r Benedictiaid a'r Cisterciaid. Drwy y mynachdai Cymreig y cyfnod hwn,

¹ Pennod i.
College Histories-University of Wales, p. 7: W. C. Davies, a W. Lewis Jones.
Yny Lhyvyr hwnn, Rhagarweiniad td. xi.: J. H. Davies.