ar eu teithiau. Dilynent reol buchedd Awstin Sant, a gwisgent wisg ddu a chroes wen arni. Daethant i Brydain yn fuan, wedi ymffurfio yn urdd, a gosodasant i fyny eu sefydliad cyntaf yn y wlad hon yn Llundain oddeutu'r flwyddyn 1140. Sefydlasant gelloedd dibynnol—commanderies—mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ysbyty Ifan—Hospitium Sancti Ioannis. Tybir i'r ysbyty hwn gael ei sefydlu oddeutu'r flwyddyn 1190 gan Ifan Prys, ac iddo roddi Manor Tir Ifan at wasanaeth y sefydliad a llwyddo i gael y lle i'w gydnabod fel noddfa ffoedigion. Noddwyd y sefydliad ymhellach yn y flwyddyn 1225 gan Lywelyn ab Iorwerth, drwy roddi iddo ddegwm Ellesmere, a chadarnhawyd hyn gan Edward II. yn y flwyddyn 1316. Gwnaed Ysbyty Ifan yn ddiweddarach yn gell ddibynnol ar Halston yn Sir Amwythig. Yr oedd safle Ysbyty Ifan ar yr hen ffordd Rufeinig rhwng Conovium a Mons Heriri, a rhwng Caer a Chaernarfon mewn cyfnod diweddarach, yn gwneud y lle yn un manteisiol i gael noddfa ynddo. Yn niwedd y bymthegfed ganrif, daeth y lle yn gartref haid o ladron yn byw ar yspeilio y wlad o amgylch. Gorfodwyd hwy, fodd bynnag, mewn amser i adael y lle, a chiliasant i Ddinas Mawddwy, a daethant i gael eu hadnabod rhagllaw fel "Gwylliaid Mawddwy." Ar ol diddymiad y mynachdai, cyflwynwyd yr Ysbyty a'r tir a berthynai iddo i Dr. Elis Price—y Doctor Coch—gan y Frenhines Elizabeth. Nid erys unrhyw olion o'r ysbyty, ond tybir y safai yr ochr orllewinol i eglwys Ysbyty Ifan.
Tregynon.—Yr oedd cell berthynol i Farchogion Ieuant Sant yn Nhregynon. Yr oedd hon hefyd yn ddibynnol ar Halston. Ni wyddis gan bwy y sefydlwyd y gell yn Nhregynon.