Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymi il

Trahaearn, ab Caradog, ab Collwyn, ab Owain, ab Bleddyn, ab Bedws, ab Ednowain Bendow, yr hwn oedd yn byw yn adeg Llyw- elyn Fawr. Yn y flwyddyn 1239, rhoddodd Huw, esgob Llanelwy, y rhan o ddegwm Llanfair Caereinion berthynai i feibion Sulien, at wasanaeth lleiandy Llanllugan. Yn y flwyddyn 1263, rhoddodd Anian, esgob Llanelwy, i Abades a Lleiandy Llanllugan gyfran o ddegwm Llanllwch-haiarn. Adeg Trethiad y Pab Nicolas yr oedd meddiannau tymhorol y sefydliad yn werth £1 9s. Od. Yn ol y Valor Ecclesiasticus a wnaed yn y flwyddyn 1535, yr oedd holl eiddo y sefydliad yn werth £32 0s. 8d. Cofnod byr sydd gan Tanner a Dugdale am y sefydliad hwn, ac nid oes gan Leland ond brawddeg, Llanlligan a veri litle poore Nunneri about the border of Kedewen and Nether Powis." Credir mai un o leianod Llanilugan ddaeth yn wraig i Enoc, abad Ystrad Marchell. Ceir cyfeiriad at Llanllugan yng ngweithiau Dafydd ab Gwilym; yn y cywydd i yrru llattai i hudo mynaches i'r llwyn," dywed :-

Peraist im' fun, ar ungair,
Par im' weled merched Mair;
Dewis lun, dos y Lan falch
Llugan lle mae rhai lliwgalch;
Cais yn y Llan ag anerch,
Salw yw'r modd, selwr merch.

Dinbych. Sefydlwyd priordy'r Carmeliaid-y myneich gwynion -yn Ninbych gan Syr John Salusbury yn y flwyddyn 1289. Gadawyd eiddo i'r sefydliad gan amryw; rhoddodd Esgob Llan- elwy-Llywelyn ab Madog, swm o arian at wasanaeth y priordy a'r llestri arian dderbyniodd gan Henry de Salbri. Dywedir i Syr John Salusbury, sefydlydd y priordy, fyned gyda'r Groesgad i'r Tir Sanctaidd, ac mai ar ei ddychweliad y gwnaeth gartref yn Ninbych i'r Myneich Gwynion. Dywed yr Archeologia Cambrensis i Syr John drosglwyddo y priordy, yn y flwyddyn 1284, i Ynys Enlli, ond nid oes dim i gadarnhau hyn yn y rhestr o feddiannau berthynai i Ynys Enlli adeg diddymu y mynachdai. Bu Henry Standish, Esgob Llanelwy, yn noddwr i'r sefydliad. Mae Tudur Aled wedi disgrifio y lle :-

Lle odidogach, lle daw dugiaeth,
Ni chae iarll yw roi no chôr lle'r aeth,
Na brenin yn sin wasanaeth-harddach
Na gwledd degach no'i gladdedigaeth.

Ysbytai Marchogion Ieuan Sant-Knights Hospitallers of St. John of Jerusalem. Dechreuodd yr urdd hon yn y flwyddyn 1092 pan adeiladwyd ysbyty i'r perorinion yn Jerusalem. Amcan yr urdd hon ar y cychwyn oedd darparu ar gyfer anghenion y rhai aent ar bererindodau i'r Tir Sanctaidd, a rhoddi nodded iddynt

1 Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465.
Dafydd ab Gwilym, Gweithiau xi., td. 13.