Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

megis Stryt y Prior, etc. Nid oes wybodaeth pa bryd y daethant yma. Tybia hanesydd esgobaeth Llanelwy iddynt ddyfod i Ruthyn gyda'r Greys, a gwneir y peth yn fwy tebyg, fel y dywed yr ysgrifennydd hwn, pan gofier mai'r Greys fu yn foddion i ddwyn. yr urdd i Loegr yn y flwyddyn 1250.[1] Nid oes gan Dugdale a Thanner odid ddim i'w ddweyd am sefydliad y Brodyr Gwynion yn Rhuthyn.[2] Gwytherin.—Yn hanes boreu yr Eglwys Geltaidd darllennir am nifer o sefydliadau cymysg; ynddynt ceid meibion a merched wedi ymneilltuo o'r byd er cael hamdden a thawelwch i ymgyrraedd at y bywyd uwch drwy fyfyrdod a gweddi. Nid oedd dim yn anghyson yn hyn, oblegid nid edrychai yr Eglwys Geltaidd ar ymgadw rhag priodi fel yn hanfodol i'r bywyd mynachaidd.[3] O'r sefydliadau hyn, gwneid llawer er goleuo ac addysgu y wlad o amgylch. I'r dosbarth hwn o sefydliadau y perthynai yr un geid unwaith yng Ngwytherin. Myn traddodiad i'r seintiau Cybi a Sannan gael eu claddu yng Ngwytherin. Mae gwahaniaeth barn, fodd bynnag, gyda golwg ar hyn.[4] Dywedir hefyd i Wenfrewi, pan yrrwyd hi allan o Dreffynnon, gael ei chyfarwyddo i fyned am noddfa i Wytherin,[5] ac iddi yn ddiweddarach gael ei chladdu yno. Wedi ei marw, daeth Gwenfrewi i amlygrwydd mawr; a daeth Gwytherin i sylw, os nad i beth enwogrwydd, fel man ei bedd, a sefydlwyd lleiandy yn y lle, er anrhydedd iddi. Nid oedd Gwytherin i gael cadw ei braint yn hir, oblegid yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif symudwyd gweddillion Gwenfrewi o Wytherin i'r Amwythig. Bu hyn, mae'n amlwg, yn ddyrnod drom i grefydd-dy Gwytherin, oblegid nid oes odid ddim o'i hanes wedi'r digwyddiad yma ar gael. Gwitherine—A nunnery here is mentioned by many that write of St. Winefrede "-dyna'r oll ddewyd Dugdale am y sefydliad."[6]

Llanllugan.—Sefydlwyd lleiandy yn Llanllugan oddeutu diwedd y ddeuddegfed ganrif gan Urdd y Cisterciaid, ac yr oedd mewn cysylltiad neilltuol â'r mynachdy berthynai i'r urdd yn Ystrad Marchell. Credir fod yn y lle grefydd-dy er y chweched ganrif; os felly, digwyddodd yn gyffelyb yn Llanllugan i'r modd digwyddodd ym Masinwerc, yng Nghymmer, a Phenmon. Rhoddodd y Cisterciaid fywyd newydd yn y sefydliad oedd wedi bodoli ers amser maith—er adeg Lleian merch Brychan Brycheiniog, yn ol rhai, er adeg Ffraid—Bridget—yn ol eraill. Ar ol sefydlu mynachdy Ystrad Marchell yn y flwyddyn 1170 y ceir y cyfeiriadau cyntaf at Llanllugan y gellir dibynnu arnynt. Dywedir i Enoc, abad Ystrad Marchell, sefydlu lleiandy yn Llansantffraid ym Mhowys, a thybir mai at Llanllugan y cyfeirir. Yr awdurdod cyntaf gyda golwg ar y sefydliad ydyw siarter Meredydd ab Robert, ab Llywarch, ab

  1. The Diocese of St. Asaph, pp. 441-442
  2. Notitia Monastica, s.n. Denbighshire. Monasticon Anglicanum, p. 267: Tanner.
  3. The Celtic Church of Wales, p. 289: J. W. Willis Bund
  4. Dictionary of National Biography, s.n. Cybi: Tout.
  5. Pennant's Tours in Wales, vol. i., p. 45-47. The Diocese of St. Asaph, p. 543: Thomas.
  6. Notitia Monastica, s.n. Denbighshire.