Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cyfyngu ei hunan i un wedd ar yr amcan oedd mewn golwg gan y Brodyr wrth ei sefydlu, sef cyfrannu addysg i'r ieuenctid. Perthynai ffreudur Bangor i urdd y Brodyr Duon—y Dominiciaid.

Llanfaes.—Gweler Pennod iv., tdd. 32—33.

Rhuddlan.—Mae Rhuddlan wedi chwareu rhan bwysig yn hanes Cymru yn wleidyddol ac eglwysig. Yn Rhuddlan, yn y flwyddyn 1284, y gwnaed Deddf Cymru. Yn hon, rhannodd Edward I. deyrnas Llywelyn yn chwe Sir,—Môn, Caernarfon, Meirion, Fflint, Ceredigion, a Chaerfyrddin; a threfnwyd fod i Gymru rhagllaw gael ei rheoli gan siryddion brenin Lloegr, ac nid gan ei thywysogion ei hunan fel o'r blaen. Yn y flwyddyn 1281, ysgrifennai Edward I. lythyr yn awgrymu gwneud Rhuddlan yn gartref esgobaeth y dalaeth yn hytrach na Llanelwy.[1] Amlwg yw, gan hynny, fod Rhuddlan yn lle eglwysig o gryn bwys yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac yn wir cyn hynny, oblegid ymwelodd yr Archesgob Baldwin a Gerallt â'r lle yn ystod eu taith, ac wedi gwasanaeth ac arddeliad[2] arno, aethant o Ruddlan i eglwys gadeiriol Llanelwy. Ymsefydlodd y Brodyr Duon yn Rhuddlan cyn y flwyddyn 1268, oblegid yn y flwyddyn honno gwnaed Prior y sefydliad, Anian II., de Schonau, y Brawd Du o'r Nannau,[3] fel y'i gelwid, yn Esgob Llanelwy. Daeth un arall o brioriaid Rhuddlan i sylw rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Yn y flwyddyn 1284, anfonodd yr Archesgob Peckham lythyr at Edward I. i alw ei sylw at y ddifrod wnaed i feddiannau a sefydliadau eglwysig yng Nghymru gan filwyr Seisnig yn ystod y rhyfel oedd newydd derfynu, ac i erfyn arno yn rasol i unioni y cam hwn. Rhoddodd y brenin ystyriaeth i'r gŵyn hon, a gorchmynodd i'r Archesgob wneud ymchwiliad pellach i'r mater. Apwyntiodd yr Archesgob ddirprwyaeth i wneud y gwaith hwn—aelodau y ddirprwyaeth oedd Prior Rhuddlan, Warden Llanfaes, a Ralph de Brocton. Ni bu'r ddirprwyaeth yn ofer; rhoddwyd iawn sylweddol i ddeon a chlwysgor Llanelwy, i esgobaeth Bangor, i fynachdy Ystrad Fflur, ac i Frodyr Duon Rhuddlan.[4] Ni raid ond ystyried adroddiad Peckham o'i ymweliad â Chymru er gweled fod y Brodyr Cardod yn gwneud gwaith rhagorol; hwy, yn ol tystiolaeth yr Archesgob, oedd y bobl gadwent y tan sanctaidd i gynneu yr adeg hon yng Nghymru, a mynnai iddynt wneud yn fawr ohonynt ar gyfrif eu gwaith.[5] Gwelodd y sefydliad lawer amser blin, ond daliodd ymlaen hyd yr adeg y diddymwyd y mynachdai. Trosglwyddwyd ef y pryd hyn, a'r oll berthynai iddo, i Harri ab Harri. Dywedir fod ysbyty ynglŷn â'r sefydliad er y flwyddyn 1281.[6]

Rhuthyn.—Bu yn Rhuthyn sefydliad perthynol i'r Carmeliaid—y Brodyr Gwynion, ond nid oes odid ddim o hanes y frawdoliaeth ar gael; yr unig dystiolaeth a erys ydyw yr ychydig enwau lleoedd

  1. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 529, 530.
  2. Itinerary through Wales, p. 129. Giraldus Cambrensis: W. Ll. Williams.
  3. The Diocese of St. Asaph, p. 221: D. R. Thomas
  4. Rymer's Fadera, i., 2, 642, 648, 650.
  5. Councils, Haddan & Stubbs, pp. 562—567, 571—574.
  6. Notitia Monastica, s.n. Fflintshire: Tanuer.