Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

40

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru

PENNOD V.

SEFYDLIADAU MYNACHAIDD.

"A fynno ddeall bywyd y Canol Oesoedd rhaid iddo astudio yn neilltuol y drydedd ganrif ar ddeg un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes dynolryw." Un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif hon oedd dyfodiad y Friars-y Brodyr Cardod neu'r Brodyr Pregethu. Gwneid hwy i fyny o bedwar dosbarth,-y Dominici 1-y Brodyr Duon, y Francisciaid-y Brodyr Llwydion, y Carmeliaid-y Brodyr Gwynion, a Brodyr Awstin. Cyfeiriwyd yn barod at y pwyntiau o wahaniaeth yn y gwahanol urddau hyn. Nid oedd yr urddau cardod yn lliosog yng Nghymru, ac nis gellid disgwyl hynny, pan gofier yr hyn a ystyriai yr urddau fel eu cenhadaeth neilltuol. Gosodid i fyny y sefydliad Benedictaidd, fel rheol, yng nghym- dogaeth castell, ceid y Cisterciaid fynychaf yng nghanol y wlad, ond yn y trefi-ac yn y rhannau isaf ohonynt-y coid y brodyrdy, -freudur y beirdd. Ychydig oedd o drefi yng Nghymru, ac ych- ydig, mewn cymhariaeth, oedd nifer y Brodyr Pregethu. Ym- sefydlasant yng Ngogledd Cymru, ym Mangor, Rhuddlan, Llanfaes, Rhuthyn, & Dinbych. >> Bangor yn Arfon.-Daeth y Brodyr Cardod i Fangor yn y flwyddyn 1277, a bu Edward I. yn gefn iddynt, ond tybir nad oedd ganddynt gartref o'u heiddo eu hunain hyd y flwyddyn 1300, pryd y rhoddwyd iddynt ddarn o dir gan Anian, Esgob Bangor.5 Dywedir mai acer a roddwyd iddynt o dir, ond nid arferid y gair yn ei ystyr gyfyng y pryd hynny, ond golygai swm amhonodol o dir, ac mae rhesymau dros gredu i Anian gyflwyno iddynt lawn pedair acer o dir-a defnyddio y gair yn ei ystyr ddiweddar. Bu Tudur ab Gronwy o Benmynydd, Môn, hefyd yn gofnogydd aiddgar i Frodyr Cardod Bangor, a chladdwyd ef yn y flwyddyn 1311, mown tir perthynol i'r urdd. Dymunodd yr Esgob Gervaso de Castro yntau gael ei gladdu yng nghôr Brodyr Pregethu Bangor," & gadawodd lawer o eiddo iddynt yn ei ewyllys, ac nid anghofiodd frawdoliaeth Llanfaes a Rhuddlan. Gadawodd Roger Sylle hefyd, yn y flwyddyn 1527, eiddo yn ei ewyllys i Frodyr Bangor. Adog diddymiad y sefydliad yn 1539, yr oedd yr eiddo borthynai i'r lle, gan gynnwys yr adeiladau, yn werth pymtheg swllt ar hugain yn y flwyddyn. Ni pherthyn i'r gwaith hwn ddilyn hanes y lle ar ol y flwyddyn uchod; digon yw dweyd ei fod bellach ers canrifoedd

1 The Meaning of History, p. 146: Frederic Harrison.
Pennod i.
Dafydd a Gwilym, xi., td. 14.
Notitia Monastica, p. 705: Tanner.
History of Friars School, p. 101, note B: Barber & Lewis.