Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y cwfeint:
Hyd eu diddymiad
Saint yw y gwfeint nid gau,
Saint Antwn, sant yw yntau.
Gwr adeilodd y delwau a'r côr
A'r cerygl a'r llyfrau
Arglwydd walch i roi gwleddau,
O fewn cwrt, ni fyn naccau.
Ychwanegir llawer at fanylion y darlun yn nisgrifiad Guttyn Owain
o Abaty Llanegwestl yn ei awdl i'r un person.

Haelioni'r sefydliad:
Afon o lasfedd i'w yfed-a gawn,
Gwin, osai, a chlared;
Meddyglyn rhwydd in' rhed,
Pob da esmwyth, pob dismed.

Rhif y gro a fo ar fywyd-ei oes,
Heb eisiau na chlefyd;
Y goreu uwchlaw'r gweryd
Am aur o abadau'r byd."

Dafydd galondid Ifor,
Dy fawl nid âi rhwng dau for:
Dy glod yw rhoi da a gwledd,
Dy ras enwog dros Wynedd.
Dwr nid oes na darn o dir,
Na thŷ dyn ni'th adwaenir
Mwya son am haelioni,
Dyn o'ch iaith am danoch chwi.

Bu dylanwad y Cisterciaid ar Gymru yn fwy na dylanwad unrhyw urdd fynachaidd arall. Mewn pennod arall cyfeirir yn helaethach at eu gwasanaeth a'n dyled iddynt. Er cymaint ein dyled i Gerallt Gymro am y darlun byw ddyry i ni o bobl, arferion, a dulliau yr oes yr oedd yn byw ynddi, nis gellir derbyn ei farn fel un ddi- duedd pan y mae a wnelo'r farn honno a'r Cisterciaid. Cyfrif dau beth am hyn: y Cisterciaid oedd prif gynrychiolwyr Eglwys Rhufain yn adeg Gerallt,-yr oglwys y cyd-ymffurfiai hen Eglwys y Cymry yn raddol â'i dysgeidiaeth a'i harferion; hwynthwy oedd ei brif wrthwynebwyr yn ei ymdrech i gadw anibyniaeth Eglwys y Cymry. Dywedir hefyd fod elfon arall fwy personol i'w chymeryd i ystyriaeth wrth gyfrif am ei ragfarn. Maentumir iddo, mown cyfwng o gyfyngder ariannol, roddi ei lyfrgell ar wystl i fyneich Ystrad Fflur; wedi hynny, aeth atynt a'i fryd ar ddadwystlo'r llyfrau, ond gwrthododd y myneich eu rhoddi iddo am y dy- wedent eu bod wedi eu prynu hwy ganddo. Beth bynnag yr eglurhad, mae'n amlwg fod Gerallt yn gadael i'w deimlad lywod- raethu ei farn wrth son am y Cisterciaid.