Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru Ial."1 A ganlyn yw rhai o'r enwau: Buddugre, Banhadlen, Croig- iog. Rhoddwyd i'r sefydliad diroedd hefyd yng Ngwrecsam a'r cylch. Cyflwynodd Reyner, Esgob Llanelwy, hanner degwm Wrecsam i Lyn-y-Groes, e rhoddwyd yr hanner arall gan ei olynydd Abraham, a rhoddodd Hywel ab Ednyfed, Esgob Llanelwy, eglwys Llangollen i'r sefydliad. 2 Yn Nhrethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291 ceir rhestr o feddiannau mynachdy Glyn-y-Groes, a rhoddir eu gwerth fel £14 14s. 8d. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd eiddo y sefydliad yn werth yn flynyddol £188 8s. Od. yn ol Dugdale, a £214 3s. 5d. yn ol Speed. Y fynachlog hon, ynghyd âg un Tintern, oedd yr unig rai yng Nghymru a chanddynt gyllid blynyddol o dros ddau gant o bunnau adeg diddymiad y mynachdai. Daeth Dafydd ab Iorwerth, un o abadau Glyn-y-Groes, yn Esgob Llanelwy, a thybia rhai fod ei olynydd yn yr esgobaeth, Dafydd ab Owen, yn abad Glyn-y-Groes, ond myn eraill mai abad Ystrad Marchell oedd hwn. Bu cryn ddadl cydrhwng Anian, Esgob Llanelwy, ag abad Glyn-y-Groes: y pwynt y dadleuid yn ei gylch oedd nawddogaeth yr eglwysi hynny y cyflwynwyd eu degwm i'r sefydliad mynachaidd. Dadleuai'r abad y perthynai hyn iddo ef; credai ef, gan fod eglwys Llangollen, a'r eglwysi ddibynnai arni Wrecsam, Rhiwabon, y Waun, Llansantffraid, a Llandegla, y byddai un ficer yn y fam-eglwys yn ddigonol i'r oll; ond eredai yr esgob y dylid apwyntio ficer i bob un o'r eglwysi dibynnol hyn. Gofynwyd am i'r Pab gyfryngu, a thrwy ei gynrychiolwr, abad Talyllychau, rhoddodd ei ddyfarniad yn ffafr abad Glyn-y-Groes, & bu raid i'r esgob dalu dirwy am ymyryd, a bu raid i'r ficeriaid hwy- thau roddi bob un £60 yn iawn i'r abad. Buy mynachdy yn hynod gefnogol i lenyddiaeth Gymreig. Yr enw amlycaf ynglŷn â Glyn-y-Groes ydyw Gutto'r Glyn,-un o feirdd mwyaf toreithiog ei gyfnod. Credir iddo gyfansoddi oddeutu cant ac ugain o ddarnau barddonol, cywyddau yn bennaf; mae ym meddiant yr ysgrifennydd bedwar ugain o'i gywyddau-rhai mewn argraff, ond y nifer fwyaf mewn llawysgrifau. Yr oedd yn ei flodeu oddeutu canol y bymthegfed ganrif, rhwng 1430 a 1468. Efe oedd bardd Llanegwestl. Yn ei "Awdl i Ddafydd abad Llanegwestl," dyry i ni syniad am yr hyn oedd bywyd o fewn mynachdy yn y bymthegfed ganrif yng Nghymru: dyfynnwn ychydig linellau o'r awdl.

Yr Abad:

Un blaenawr o aur eiriau, diwladaidd
Abadaidd wybodau,
Iarll ac imp yr holl gampau,
A chwardd fry gyda cherdd frau
Sanctaidd a llariaidd ar allorau-Duw
Y dywed weddiau.

1 Gorchestion Beirdd Cymru, td. 203: Rhys Jones.
1 Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 2-3.
The Diocese of St. Asaph, p. 43: D. R. Thomas