Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

Mae arch yn Ystrad Marchell
Ymynwent ewfent a'i cell.
Mawr yw anaf cerdd dafawd,:
Mawr os gwir marw eos gwawd;
Tristach ydyw'r byd trostaw,
Tresbas drud dros Bowys draw
Gweddw yw'r gerdd amguddio'r gwr.
Gweddw yw gwlad o gywyddau glwys,
Gwedi bwa gwawd Bowys,
Gweddw'r serch egwyddor son,
Gweddw yw Arwystl gwydd irion;
Ni chyrch nac eos na chog,
O Lwyn On i Lanwennog;
Nid byw cariad taladwy,
Nid balch ceiliog mwyalch mwy,. . . .
A thorri canllaw awen,
Athraw gwawd, a threio gwen.
Ei gorff ef aeth i'r crefydd,
Aner i Fair yn y cor fydd.

Llangwestl, Glyn-y-Groes, Valle Crucis.--Oddeutu dwy filltir o Langollen, ychydig ymhellach i'r gogledd na Chastell Dinas Bran, mewn glyn prydferth a ymegyr i ddyffryn y Ddyfrdwy, gwelir olion hen fynachdy Cisterciaidd Glyn-y-Groes, a sefydlwyd gan Fadog ab Gruffydd Maelor o Gastell Dinas Brân yn y flwyddyn 1200. "Deucant mlyned amil oed oet Crist . . . y ulwydyn honno. y grwndwalwyt manachlawe lenegwestyl yn ial."i Yn y ddeuddeg- fed ganrif rhanwyd Powys rhwng Owen Cyfeiliog a Gruffydd Maelor, y rhannau o gwmpas yr Hafren i Owen a'r rhannau oddeutu'r Ddyfr- dwy i Gruffydd. Fel y gwelwyd, codwyd mynachdy Cisterciaidd ym Mhowys Isaf gan Owen Cyfeiliog yn y flwyddyn 1170, a deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach gwnaed yr un gymwynas â Phowys Uchaf gan Fadog, y gwr roddodd ei enw i Bowys Fadog. Daeth y myneich i Lanegwestl o Ystrad Marchell, a rhoddodd Madog iddynt dre ddegwm Llanegwestl fel eu perchenogaeth. Yn y siarter dywed y sylfaonydd " Yn y flwyddyn 1200, yn cael ei gymell gan gariad Duw, a'i berswadio gan Pedr, abad y Tŷ Gwyn yn Ne Cymru a Diniawel abad Ystrad Fflur, rhoddodd y Tywysog Madog ab Gruffydd Maelor i Dduw, i Fair y Wyryf Fendigaid, ac i fynoich Ystrad Marchell dre ddegwm Llanegwestl a'r oll o fewn i'w therfynau, i adeiladu mynachdy or anrhydedd i Dduw, a'r fam fendigaid y Wyryf Mair, fel y gallent wasanaethu Duw yn ol rheol. buchedd urdd y Cisterciaid." Gwasanaethai Philip, abad Ystrad Marchell, Philip, abad Glyn-y-Groes, Caradog ab Huw, ac Ed- nowain Sais fel tystion o'r weithred hon. Ddwy flynedd yn ddi- weddarach, cadarnhawyd y weithred hon a throsglwyddwyd ych- waneg o feddiannau i'r sefydliad. Yr oedd y tiroedd ychwanegwyd yn Ial yn bennaf; geilw Guttyn Owain abad Llanegwestl yn "bab

1 Brut y Tywysogion-The Red Book of Hergest, vol. ii., 342: Rhys and Evans. Councils,
Haddan & Stubbs, vol. i., p. 394.