hysbys; cyfeiria un ysgrifennydd, fodd bynnag, at Owen Glyndwr yn ymosod ar Fontgomeri ac yn llosgi y lleoedd amgylchent y Trallwm"; mae'n ddigon posibl y cymerir i mewn Ystrad Marchell yn y "lleoedd amgylchent y Trallwm."[1] Yr oedd cell berthynol i Ystrad Marchell yn agos i Lyn Arenig,[2] yn agos i'r ffordd fawr arweinia o'r Bala i Ffestiniog, heb fod ymhell o'r Filldir Gerrig yng nghwmwd Penllyn. Rhoddwyd tiroedd i fyneich Ystrad Marchell yn y rhan hon o'r wlad gan Wenwynwyn tywysog Powys, a phan dderbynient diroedd yn rhodd mewn rhanbarthau pell oddiwrth y mynachdy, arferai y myneich sefydlu cell er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol pobl y cylch; a thybir fod Gwenwynwyn wedi cysylltu amod â'r rhodd, sef eu bod i ddarparu man aros iddo ef pan y byddai yn teithio drwy y rhanbarth. Ceir amryw enwau lleoedd yn dwyn tystiolaeth i gysylltiad y myneich. â'r ardal hon, megis Coed y Mynach, Cwm Tir Mynach, Pont Mynachdwr. Adeg diddymiad y mynachdai perthynai i'r sefydliad gyllid blynyddol o £73 7s. 3d.
Mae i Ystrad Marchell bwysigrwydd ynglŷn â llenyddiaeth Gymreig. Credir i Freuddwyd Rhonabwy yn ei ffurf bresennol gael ei ysgrifennu ym mynachdy Ystrad Marchell. Ceir yn y fabinogi ddisgrifiad rhagorol o'r "dull o fyw yn y wlad " yr adeg hynny— "A phan doethant parth ar ty. sef y gwelynt lawr pyllawe anwastat yn y lle ybei vrynn arnaw. a breid yglynei dyn arnaw rac llyfnet y llawr gan vissweil gwarthec ae trwnc. yn y lle ybei bwll dros vynwgyl ytroet ydaei ydyn gan gymysc dwfyr athrwne y gwarthec. agwrys kelyn yn amyl ar yllawr. gwedy ryyssu or gwarthec eu bric. Aphan deuthant ykynted yty y gwelynt partheu llychlyt goletlwm. a gwr wrach yn ryuelu ar y neillparth. a phan deelei annwyt arnei ybyryei arffedeit or us ampen y tan hyt nat oed hawd ydyn or byt. diodef y mwc hwnnw yn mynet ymywn ydwy ffroen. ac ar y parth arall y gwelynt croen dinawet melyn. ablaenbren oed gɛn un onadunt agaffei vynet ar y croen hwnnw."[3]
Fel y cyfeiriwyd, yr oedd sylfaenydd a noddwr cyntaf Ystrad Marchell—Owen Cyfeiliog—yn fardd gwych, fel y prawf y llinellau hyn o'r Corn Hirlas:—
Estyn y corn er cydyfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed.
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunant cyrn medd mawr a wna neued.
Torrynt torredwynt uch teg adfan.
Aur gunieid, lunieid, coch eu hongyr.
. . poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir.
Canodd Gutto'r Glyn gywydd marwnad i Lywelyn ap y Moel,. un o gwfeniaid Ystrad Marchell:—