Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

hyn gan y ffaith fod abad Tŷ Gwyn ar Dâf yn ymwelydd swydd- ogol âg Ystrad Marchell. Gelwid y lle yn Pola yn ddigon naturiol oddiwrth enw'r plwy' yr oedd ynddo. Yn siarter y sylfaenydd, gosodir allan y tir yn Ystrad Marchell yn cael ei roddi or anrhydedd i Dduw a'r Wyryf Fair, yna nodir terfynnau'r tiroedd. Yn y flwyddyn 1183, ychwanegwyd at diroedd y sefydliad drwy rodd gan Elis ab Madog, cefnder Owen Cyfeiliog. Bu Gwenwynwyn yntau, mab Owen Cyfeiliog, yn haelfrydig i'r sefydliad gychwynwyd gan ei dad; yn y flwyddyn 1201 rhoddodd siarter yn cyflwyno i Ystrad Marchell holl dalaeth Cyfeiliog. Derbyniodd y sefydliad lawer o roddion gan eraill hefyd, a phrynwyd tiroedd gan y myneich eu hunain fel yr oeddynt yn mynd rhagddynt mewn cyfoeth, ond mae'n amlwg iddynt, mewn rhyw fodd, golli llawer o'u meddiannau; oblegid adeg Trethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291, nid oedd eu holl eiddo ond gwerth rhyw ugain punt,-£18 10s. 10d. oddiwrth feddiannau tymhorol; 13s. 4d. yn rhent o'r Amwythig; a 3s. yn y flwyddyn oddiwrth weddgyfarodir. Ni raid mynd ymhell i gael esboniad ar y modd y collasant lawer o'u tiroedd rhwng y blynyddoedd 1170 a 1291. Yn y rhyfel rhwng Llywelyn ac Edward I., ffafriai y myneich hyn Edward, ac fel cospedigaeth arnynt, aeth Llywelyn a llawer o'u tir oddiarnynt; a phan orch- fygwyd Llywelyn gan Edward I., aeth pob eiddo borthynai, neu dybid berthynai, i'r tywysog Cymreig yn eiddo i'r gorchfygwr. Gwnaeth y "brodyr" ymdrech i adennill eu tiroedd yn ystod y blynyddoedd 1321-1322; gwnaethant apêl at y brenin am gyfiawnder, a gorchmynodd yntau i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos. Cafodd y sefydliad gymwynaswr yn yr Esgob Lewis Cherleton o Henffordd, gadawodd iddo swm sylweddol o arian yn ei ewyllys. Dywed Dugdale i'r myneich Cymreig gael ou symud yn nechreu teyrnasiad Edward III. o Ystrad Marchell i abatai Seisnig, ac i fyneich Seisnig gymeryd eu lle, ac i'r sefydliad gael ei roddi dan arolygiaeth Buildewas yn Sir Amwythig.¹ Yr oedd amryw o abadau Ystrad Marchell yn ddynion o gryn bwys, ac mae sicrwydd i un ohonynt fod droion yng Nghyngor Cyffredinol Citeaux, ac mae pob lle i gredu fod y mwyafrif ohonynt yn gy- meriadau diargyhoedd, yr hyn y proffesent fod; daeth yr abad Dafydd ab Owen, yn Esgob Llanelwy yn y flwyddyn 1503. Yr oedd eithriadau yn eu mysg hwythau, syrthiodd Enoc ail abad Ystrad Marchell, i anfoesoldeb, a bu raid iddo ymneilltuo o'i swydd gysegredig ac o'r bywyd mynachaidd. Mae bron yn sicr mai at Enoe y cyfeirir gan Gerallt Gymro. Fel y gellid disgwyl, diodd- efodd holl abatai Gogledd Cymru yn fawr drwy wrthryfel Owen Glyn Dwr, ac nid oedd Ystrad Marchell yn eithriad yn hyn: gwnaed i fyny i raddau am y difrod hwn drwy garedigrwydd Syr John de Cherleton. Ychwanegodd of at ragorfreintiau Ystrad Marchell mewn trefn i unioni y cam wnaed â hwynt drwy wrthryfel Owen Glyndwr. Pa fodd y dioddefodd y sefydliad nid yw yn

Monasticon Anglicanum, p. 104: William Dugdale.
I inerary through Wales, p. 54, Giraldus Cambrensis: W. L. Williams.