Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru

hynny, yr oedd Dafydd yn foddlon i ddod yn wr ffydd iddo, i ddal ei dywysogaeth dano, ac i anfon swm mawr o arian yn flynyddol iddo. Apwyntiodd y Pab abadau Aberconwy a Chymmer i wneud ymchwiliad i'r mater. Wedi cael yr awdurdod hwn gan y Pab, gwysiodd y ddau abad Harri III. i ymddangos ger eu bron hwy yng Nghaerwys ar yr ugeinfed o Ionawr yn y flwyddyn 1245, er mwyn iddynt wneud yr ymchwiliad y gorchmynwyd hwy i'w gyflawni. Cynhyrfodd hyn y brenin a'i farwniaid i ymosod eilwaith ar Gymru ac i drymhau'r gorthrwm, daeth gair oddiwrth y Pab yn gorchymyn i'r abadau beidio mynd ymlaen gyda'r ymchwiliad. Ymunodd abad Cymmer, gyda'r abadau ereill berthynai i'r sef- ydliadau Cisterciaidd yng Ngogledd Cymru, mewn gwrthdystiad yn erbyn Esgob Llanelwy ar gyfrif yr anwireddau ddywedodd am Lywelyn ein Llyw Olaf wrth y Pab. Un o abadau Cymmer oedd Hywel, cefnder Owen Glyn DWT. Ni chydymdeimlai Hywel â'i gefnder yn ei gynlluniau a'i ysbryd gwrthryfel, ac er ceisio ei berswadio i adael y cwrs ddilynai gwahoddodd Hywel of i aros gydag ef ar delerau cyfeillgar. Derbyniodd Owen y gwahodd, ac aeth i Gymmer; ac un diwrnod, pan allan yn rhodianna gyda'u gilydd, anelodd Hywel ei fwa ato, a darfuasai am Owen onibae am y wasgod ddur a wisgai. Wedi gweld brad ei gefnder, ffyrnigodd Owen, aeth yn ymladd rhyngddynt, ac Owen a orfyddodd. Cyllid blynyddol Cymmer adeg diddymiad y mynachdai oedd £51 13s. 4d. yn ol Dugdale; £58 15s. 4d. yn ol Speed. 34 Ystrad Marchell.-Safai mynachdy Cisterciaidd Ystrad Marchell yn Sir Drefaldwyn, oddeutu tair milltir o dref Trallwm.¹ Hyd heddyw, erys ychydig olion o'r mynachdy. Sefydlwyd yr abaty yn y flwyddyn 1170, gan Owen Cyfeiliog, tywysog Powys, rhyfelwr, a bardd,-awdwr y "Corn Hirlas." Dywedir y byddai'r tywysog hwn a'i ben milwyr yn ei gylch, a phan ganai glod pob un, gor- chymynai i'r menestr lanw'r corn a'i roi i'r sawl a folid; archai iddo'i lanw i Dudur & Moreiddig, ac adroddai eu campau; ond erbyn edrych, nid oeddynt yno, yr oedd y ddau wedi cwympo yn y frwydr. Llywodraethai Owen ar Bowys Isaf, ac yn ol tystiolaeth Gerallt Gymro yr oedd yn un o'r tri tywysogion Cymreig mwyaf blaenllaw yn ei ddydd. Yn niwedd ei oes, ymneilltuodd i'r crefydd-dy sefydlwyd ganddo. "Y vlwydyn honno y bu uarw Owein Kefeilawe ynystratmarchell. wedi kymryt abit ycrefyd ymdanaw."3 Yr oedd hyn yn both digon arferol ymysg yr hen dywysogion Cymreig; ymddygodd Llywelyn Fawr, fel y gwelwyd, yn gyffelyb. Gelwir y crefydd-dy hwn wrth yr enwau Pola, Alba Domus Ystrad Marchell, Valle Crucis. Dugdale sydd yn gyfrifol am yr enw olaf, ac mae yn ffrwyth cymeryd siartor Madog ab Gruffydd Maelor fel yn cyfoirio at Ystrad Marchell, ac nid at Llanegwestl fel y dylasai wneud. Gelwid hi yn Alba Domus am mai o Dŷ Gwyn ar Dâf y daeth y myneich cyntaf i'r lle. Cadarnheir

Leland's Itinerary in Wales, p. 55.
Itinerary through Wales, p. 136, Giraldus Cambrensis: W. LI. Williams.
Brut y Tywysogion-The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 341: Rhys and Evans.