Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gerallt yn ei Daith trwy Gymru at Ynys Lenach[1] fel y geilw efe hi, fel mangre sefydliad eglwysig. Mabwysiedir yr un golygiad gan Pennant a Dugdale.[2] Y tebygrwydd, gan hynny, ydyw i Llywelyn Fawr roddi bywyd newydd i hen sefydliad oedd yn bod yn barod, a newid rhyw gymaint ar ei garictor. Dywedir gan ysgrifennydd diweddar i Lywelyn osod urdd y Gilbertiaid ym Mhenmon.[3] Cyllid blynyddol y sefydliad adeg diddymiad y mynachdai oedd £47 15s. 3d.

Cymmer neu y Fanner.—Safai mynachlog y Cymmer oddeutu milltir o Ddolgellau, yn agos i uniad yr afonydd Wnion a Mawddach, ac erys digon o'i holion i roddi syniad am yr hyn oedd unwaith. Sefydlwyd y fynachlog gan Feredydd, arglwydd Lleyn a Meirionydd, a'i frawd Gruffydd, meibion Cynan ab Owen Gwynedd. Llwyddodd Cynan a'i frawd Hywel i ennill Meirionydd oddiar ei ewythr Cadwaladr, arglwydd Meirionydd, yn y flwyddyn 1148. Yr oedd safle Meirionydd yn y ddeuddegfed ganrif yn hynod bwysig. Yn y cyfnod hwn yr oedd Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth yn ymryson â'u gilydd am oruchafiaeth, a'r cryfaf ohonynt oedd i gael Meirionydd. Credai yr hen dywysogion mai un ffordd i gadw meddiant o'u tir, mewn adeg yr oedd popeth mor ansicr, oedd drwy sefydlu a gwaddoli crefydd-dai; yr oedd mynachdy Cisterciaidd ymhob rhanbarth o Wynedd erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif, Aberconwy yn Eryri, Basingwerc yn y Berfeddwlad, Ystrad Marchell ym Mhowys Isaf, Glyn y Groes ym Mhowys Uchaf, a Chymmer ym Meirionydd. Sefydlwyd Cymmer tua diwedd y ddeuddegfed ganrif,—1198 neu 1200[4], a daeth nifer o fyneich Cwmhir ac a ymsefydlasant ynddi.[5] Cysegrwyd y sefydliad i'r Wyryf Fendigaid. Yn y flwyddyn 1209, rhoddodd Llywelyn ab Iorwerth siarter i'r lle, yn cadarnhau y rhoddion gyflwynwyd gan y sefydlwyr, ac yn ychwanegu rhoddion a rhagorfreintiau pellach i'r lle; yn y siarteri hyn, gosodir allan derfynnau'r tiroedd oedd i fod yn eiddo rhagllaw i'r sefydliad. Ni wneir cyfeiriad at y mwnau oedd yn y gymydogaeth, a'r casgliad naturiol yw nad oeddynt eto wedi eu darganfod. Yn ychwanegol at ei berchenogaeth ym Meirionydd, perthynai i'r mynachdy diroedd yn Lleyn. Yr oedd y teimlad cenedlaethol yn gryf yng Nghymmer, ac yr oedd amryw o'i habadau yn wyr o safle uchel. Cyn ei farw, wedi ymgynghori â'r tywysogion Cymreig yn Ystrad Fflur, penderfynodd Llywelyn Fawr mai Dafydd ac nid Gruffydd oedd i fod yn olynydd iddo ar yr orsedd. Amser blin gafodd Dafydd ar yr orsedd, yr oedd gorthrwm Lloegr drymed fel y penderfynodd, yn y flwyddyn 1244, apelio at y Pab i ddymuno arno fod yn blaid iddo, ac os gwnai Innocent IV.

  1. "This island is called in Welsh, Ynys Lenach, or the ecclesiastical island, because many bodies of saints are deposited there, and no woman is suffered to enter it."—Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 123: W. LI. Williams.
  2. Pennant's Tours in Wales, vol. iii., pp. 35, 36; Monasticon Anglicanum, vol. ii. 338: Dugdale.
  3. The Old Churches of Arllechwedd, Introd. xx. (note): Herbert L. North.
  4. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 394.
  5. A History of the Welsh Church, pp. 303, 304: Newell