Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ychwanegol at Aberconwy sefydlwyd dau grefydd-dy arall yng Ngogledd Cymru gan Llywelyn Fawr,—Llanfaes a Phenmon. Perthynai Llanfaes i'r Brodyr Llwydion—y Ffrancisciaid; sefydlodd Llywelyn hi er coffadwriaeth am Joan ei wraig. Cyfeirir ym Mrut y Tywysogion at sefydliad Llanfaes,—"Y ulwydyn rac wyneb y bu uarw giwan uerch Ieuan frenin gwreic lywelyn ab iorwoerth. vis whefrawr yn lys Aber, ac y cladwyt mywn mynwent newyd ar lan ytraeth. y gyssegrassei howel escob Llanelyw. Ac oe henryded hi ydadeilawd Llywelyn ab Iorwoerth yno vanachlawc troetnoeth a elwir Llanvaes ym mon."[1] Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1240; yn y flwyddyn 1237, yn ol Haddan a Stubbs.[2] Daeth yn lle bedd amryw wyr o bwys,—brenin Denmarc, Arglwydd Clifford, amryw arglwyddi a barwniaid gwympasant yn y rhyfeloedd rhwng y Cymry a'r Saeson. Gwnaed cryn ddifrod i'r lle gan Harri IV.[3] Brenin lloegr, ond adferwyd ef gan Harri V., yr hwn a wnaeth drefniad fod wyth o frodyr crefydd i fod bob amser yn y sefydliad. Bu Edward II. yntau yn garedig wrth y sefydliad.[4] Yr oedd y Brodyr yn gefnogwyr aiddgar i Owen Glyndwr a'r mudiad gynrychiolid ganddo. Ceir amryw gyfeiriadau at Llanfaes yn ein barddoniaeth, gwasanaethed a ganlyn fel engraifft allan o lawer:

Od aeth Ieuan a'i anedd,
I Lanfaes wrth lunio'i fedd.—Hywel Dafydd.

Y crefydd-dy arall y cysylltir enw Llywelyn Fawr âg ef ydyw Penmon. Ynglŷn â Phenmon mae'r cwestiwn yn ymgodi—A oedd crefydd-dy ym Mhenmon cyn adeg Llywelyn? Y farn gyffredin ydyw fod y fath sefydliad yn y lle er y chweched ganrif. Enwir Einion Frenin fel ei sylfaenydd—gwr y cysylltir ei enw gyda Chadfan fel sylfaenydd crefydd-dy Ynys Enlli, a'r un y tybir iddo sefydlu eglwys Llanengan yn Lleyn. Cyfyd cwestiwn arall. A oedd y crefydd-dy ym Mhenmon o'r cychwyn ai ynte yng Nglanach—Ynys Seiriol? Os derbynir y golygiad ddarfod i Einion Frenin gychwyn y sefydliad, digon naturiol fyddai tybied iddo ddilyn cynllun tebyg i'r un ddilynwyd yn Ynys Enlli, cychwyn yng Nglanach ac yn ddiweddarach dyfod o'r ynys i dir Môn, ond dylid cofio nad yw hyn oll ond dyfaliad. Ceir llinellau yng ngweithiau Cynddelw awgrymant fod ym Mhenmon sefydliad crefyddol yn ei ddyddiau ef. Dyma ei eiriau:

Hyd Gaergaint i gadw braint Brython,
Hyd Gaer Llyr, a hyd Gaer Lleon,
Hyd Ystreigyl Enigyl, hyd Aeronydd ydd aeth,
Ei benaeth o Benmon.

Mae'r chwedl am Gybi yn cyfarfod Seiriol abad Mynachdy Penmon, yn ffafrio'r syniad fod yn y lle grefydd-dy er yn foreu.[5] Cyfeiria

  1. Brut y Tywysogion—Red Book of Hergest, vol. ii., p. 368: Rhys and Evans.
  2. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465.
  3. Wales, The Story of the Nations, p. 271: Owen Edwards.
  4. Monasticon Anglicanum, vol. i., p. 55; William Dugdale. Pennant's Tours in Wales. vol. iii., pp. 32—33.
  5. A History of the Welsh Church, p. 83: Newell.