Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ystod ymdrech Llywelyn ein Llyw Olaf am anibyniaeth Cymru, cydnabyddid of ac Ystrad Fflur y ddau sefydliad pwysicaf o'u bath yng Nghymru. Drwy abadau Ystrad Fflur ac Aberconwy apeliodd Llywelyn, yn y flwyddyn 1275, at esgobion Lloegr, ar iddynt farnu rhwng Edward ac yntau. Yr oedd Esgob Bangor wedi esgymuno Llywelyn, yr oedd Esgob Llanelwy—Anian o'r Nannau wedi ei athrodi o flaen esgobion Lloegr ac o flaen y Pab. Ystrad Fflur, Mawrth y seithfed, yn y flwyddyn 1274,[1] ysgrifennwyd llythyr at y Pab Gregori X., gan abadau'r mynachdai Cisterciaidd, ac yn eu mysg Aberconwy, yn dymuno am i'r Pab beidio credu'r anwireddau ddywedwyd gan Esgob Llanelwy am Llywelyn. Bu yr ymdrech hon yn llwyddiannus, oblegid anfonodd y Pab at Archesgob Caergaint i'w orchymyn i beidio esgymuno Llywelyn os byddai'n foddlon i gyfarfod cenhadon yr Archesgob yng Nghymru; a dyna'r hyn oedd Llywelyn yn ei ddeisyfu. Canodd Tudur Aled un o'i gywyddau goreu i Abad Aberconwy i ddeisyf ganddo farch yn anrheg i Cynrig, perthynas i'r bardd. Yr oedd Cynrig ar briodi merch deg, ond rhaid oedd cael "march i'w dwyn." Credir fod y bardd ei hunan yn aelod o urdd y Ffrancisciaid. Yn y cywydd ceir disgrifiad rhagorol o Faenan. Dyfynnir nifer o linellau ohono:

 
Gydag un a geidw Gwynedd,
Y cawn ar lan Conwy wledd;
Abad ar y seithwlad sydd,
Aberconwy bare winwydd:
Arglwydd yn rhoi gwleddau'n rhad.
Arfer ddwbl ar fwrdd abad:
Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog.
Conwy mewn dyffryn cynes,
Cefn y ffrwd y caf win ffres;
Tai aml am win, teml y mel,
Trwsiant, a bwtri isel.
P'le ceisiwn sesiwn y saint?
Gydag ef a'i gyd-gwfaint.
Gwyr un rhif, gwerin Rhufain,
Gwyn a rhudd yw gownau rhai'n.
Os gwyn ei fynwes a'i gob?
O'r un wisg yr â'n esgob:
Fe âi'r mab ar fur a main,
Be'i profid yn bab Rhufain.
Aent a mil o renti man,
Yntau fynai rent Faenan.[2]


Ni wna Gerallt Gymro ond crybwyll yn unig enw mynachdy Cisterciaidd Conwy. Nid oedd y sefydliad yr adeg yr ai yr Archesgob Baldwin a Gerallt drwodd ond ieuanc, tair blynedd oedd er yr adeg y sefydlwyd ef.[3]

  1. Councils, Haddan & Stubbs, vol. 1. pp. 498, 499.
  2. Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
  3. Itinerary through Wales, p. 128: Giraldus Cambrensis: W. Llewelyn Williams.