Aberconwy i fod yn gyfrifol am unrhyw arian fenthycid gan y myneich berthynai iddi, os gwneid hynny heb ganiatad yr Abad. Yn yr abaty hwn gyfodwyd ac a waddolwyd gan Llywelyn ab Iorwerth y claddwyd y tywysog yn y flwyddyn 1240. Mae'r cofnod o hyn ym Mrut y Tywysogion yn ddyddorol, dyfynnwn ychydig frawddegau: "Deugein mlyned adeucant amil oed oet crist panuu uarw Llywelyn ab Iorwoerth tywyssawc Kymry. Gwr oed anawd menegi y weithretoed da ac y claddwyt yn aber conwy. wedy kymryt abit crfeyd ymdanaw.[1] Cyffelyb yw tystiolaeth yr Annales Cambria mewn perthynas i Llywelyn a'i garedigrwydd i'r myneich. "Rhoddodd fwyd a diod i dlodion Crist, gwnaeth gyfiawnder a phawb yn ol eu haeddiant. . . . drwy gariad gwnaeth ei hunan yn agos at bawb, a chadwodd y myneich mewn tangnefedd.[2] Bu Dafydd mab Llywelyn Fawr hefyd yn un o garedigion y sefydliad yn Aberconwy, ac er marw ohono yn Abergwyngregin, claddwyd ef gyda'i dad yn Aberconwy yn y flwyddyn 1246.[3] Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth dau Abad a chorff Gruffydd i'w gladdu yno gyda'i frawd. Er iddynt ymryson llawer a'u gilydd yn eu bywyd ni wahanwyd hwynt yn eu marwolaeth. Yn y flwyddyn 1289[4] symudwyd y sefydliad Cisterciaidd o Aberconwy i Faenan, ychydig filltiroedd yn uwch i fyny i'r dyffryn; saif Maenan bron yn gyfarwyneb a ffynnon Trefriw." Gwnaed hyn gan Edward I., a thrwy ganiatad y Pab Nicolas. Ymddygodd Edward I. yn hynod o anrhydeddus tuag at y myneich yr adeg hon, caniataodd iddynt ddal y tiroedd berthynai iddynt o'r blaen a mwynhau eu rhagorfreintiau, ac os cymerei oddiarnynt rai o'u tiroedd a'u meddiannau oddeutu Conwy, rhoddai yn eu lle eiddo cyfwerth yng nghymdogaeth Maenan. Gwnaeth y brenin hyn ar yr amod eu bod yn apwyntio dau Sais yn gaplaniaid, ac un Cymro er budd y rhai hynny na ddeallent Saesneg. Dechreu'r duedd i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oedd un o'r ddau Sais i fod yn Ficer parhaus, ac i'w enwi gan y cwfeiniaid a'i gyflwyno gan yr esgob. Cadarnhawyd yr oll a wnaed rhwng y brenin a'r sefydliad mewn dwy siarter dyddiedig o Gaernarfon.[5] Symudwyd y myneich yn ddiweddarach o Faenan i Vale Royal yn Sir Gaer.
Adeg diddymiad y mynachdai ystyrid y tiroedd berthynai i fynachdy Maenan yn cynhyrchu cyllid blynyddol o £162 15s. Od. yn ol Dugdale, £197 10s. 10d. yn ol Speed. Yn y flwyddyn 1563, daeth y lle y safai yr abaty arno a'r dre ddegwm yn eiddo i Eliseus Wynne, un o hynafiaid Arglwydd Niwbwrch. Symudwyd corff Llywelyn Fawr gyda'r sefydliad o Aberconwy i Faenan, ac yn ddiweddarach o Faenan i Wydir; gorwedd ei fedd carreg yn awr yn eglwys Llanrwst.[6] Bu i'r sefydliad hwn ran bwysig yn hanes Cymru;
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 369. Rhys and Evans.
- ↑ Annales Cambria, pp. 82, 83.
- ↑ Annales Cambria, p. 83; Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 370: Rhys and Evans.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 588—589.
- ↑ The History and Antiquities of the Town of Aberconwy, p. 74 and Appendix, pp. 183—177; The Record of Caernarvon, pp. 145, 146, 149.
- ↑ The Old Churches of Arllechwedd, p. 33: Herbert L. North. The Diocese of St. Asaph, p. 47 D. R. Thomas.