achau.[1] Edrychir arno hefyd fel cofiadur Ystrad Fflur a Basingwerc, gadawodd ar ei ol y llyfr a adnabyddir fel "Llyfr Du Basing"; cyfeirir yn llawnach at hwn mewn pennod ddiweddarach; yr oedd hefyd yn fardd gwych. Canodd gywydd i Domas ab Dafydd Pennant, abad Dinas Basing; ymneilltuodd yr abad hwn o'r bywyd mynachaidd, a phriododd Angharad, ferch Gwilym ab Gruffydd ab Gwilym o'r Penrhyn, ger Bangor, a chymerwyd ei le fel abad gan ei fab Nicolas. Am yr abad, dywed Guttyn Owain:—
Ei ddwywawl arglwyddiaeth
Yw'r lawn i roi ar lan traeth.
Punnoedd mab Dafydd Pennant
Perai a gwin per i gant,
Da gweddai lle dygwyddodd,
Mewn tair rhent, a maint y rhodd.
Darn o'r nef, dêyrn ein iaith,
Da'r adeiliai dai'r dalaeth.
Yn yr un cywydd ceir gan y bardd ddisgrifiad rhagorol o fynachlog Dinas Basing:—
Difai naddfaen, defnyddfawr,
A derw tir mewn dortur mawr!
Tai melus win, teml y saint,
Tair cafell, tŷ i'r cwfaint.
Ty da i'r yd, o'r tu draw,
Ty brag sydd, tŷ brics iddaw;
Gwal geryg wrth Gilgwri,
A thŷ porth ar ei thop hi;
Caed ar fur lle caid aur faich,
Caer fain yn cau ar fynaich.
Ef a lanwodd felinau,
Yn mhob glyn, a phen bryn brau.[2]
Aberconwy.—Ac eithrio Ystrad Fflur, Aberconwy oedd y sefydliad mynachaidd pwysicaf yng Nghymru o fewn y cyfnod hwn. Yr hyn oedd Ystrad Fflur i Geredigion a theulu'r Deheubarth, dyna oedd Aberconwy i Wynedd a thywysogion y Gogledd. Daeth nifer o fyneich i'r lle o Ystrad Fflur, a sefydlwyd Aberconwy gan Llywelyn Fawr yn y flwyddyn 1185, a chysegrwyd hi i'r "Wyryf Fendigaid a'r Holl Saint."[3] "Myfi Llywelyn fab Iorwerth, tywysog holl Ogledd Cymru, trwy fewnol rym duwioldeb, er iachawdwriaeth fy enaid ac eneidiau fy rhagflaenoriaid a'm holynwyr a roddaf,"—ac yna dilyn derfynnau'r wlad roddodd y tywysog i'r Cisterciaid. Ymysg yr enwau a nodir fel yn perthyn i'r mynachdy, ceir Ffynnon y Meirch, Cerrig Llwynogod, Llyn Alwen, Erw'r Forfran, Gwern y Gof, Crogfryn, Blaenchwilogen, Gwernbleiddiau, Rhedynog Felen, Trefarthen, ac Aberpwlledarlas. Cyfeirir yn y siarter at y rhagorfreintiau berthynai i'r sefydliad, ymysg pethau eraill nodir nad oedd