Cisterciaidd. Dywedir i Harri I. sefydlu cell berthynol i'r Templars yn y fan hon.[1] Ac wrth ddisgrifio ei daith drwy Gymru gyda'r Archesgob Baldwin, dywed Gerallt Gymro iddynt droi i letya dros noswaith i "gell fechan Basingwerc.[2] Digwyddodd hyn yn y flwyddyn 1188. Awgrymir hefyd fod safle y fynachlog—ar godiad tir ac heb fod ymhell oddiwrth gastell—yn milwrio yn erbyn y syniad fod y lle o'r cychwyn yn sefydliad Cisterciaidd.[3] Dadleuir gan ysgrifennydd yn yr Archeologia Cambrensis i Basingwerc gael ei sefydlu, nid gan y Cymry, ond gan y Saeson.[4] Yr oedd safle Basingwerc yn bwysig iawn,—yr oedd yn y Berfeddwlad, maes yr ymladd mewn modd neilltuol rhwng Lloegr a Chymru,—a naturiol, gan hynny, oedd i Sais a Chymro ymgiprys am dani. Rhoddwyd iddi siarter gan Harri II., yr hon a ddodai awdurdod cyfraith i'r rhoddion drosglwyddwyd i'r sefydliad gan Ranulph, Iarll Caer.[5] Rhoddwyd iddi hefyd siarter gan Llywelyn Fawr a chan ei fab Dafydd, ac yr oedd tywysogion Cymreig wedi ei noddi cyn ei ddyddiau ef. Sicrhaodd Llywelyn iddi yn ei siarter bob peth oedd ei hynafiaid wedi roddi iddi er lles eu henaid, a chyhoeddodd iddi "heddwch a llonyddwch oddiwrth bob gwasanaeth daiarol ac oddi wrth bob bydol dreth." Ac ymddygodd Dafydd ab Iorwerth mewn modd cyffelyb tuag ati yn y flwyddyn 1240. Dyry Dugdale[6] restr o'r gwaddoliadau berthynai i Basingwerc: eglwys Glossop, Treffynnon, Fulbrook; capel Basing, y tai berthynai i'r hen fyneich, y felin a'r oll berthynai iddi, eiddo yn Longenedale yn Sir Derby; Calders a'i thrigolion, Kethlenedei, Holes, a rhan gyfran o Lecche, a chanswllt yn y flwyddyn o gyllid Caer. Cadarnhawyd y rhoddion uchod i'r sefydliad gan Siarter Harri II. ac ychwanegwyd llawer atynt gan Siarter Llywelyn a Dafydd, ymysg pethau eraill rhoddwyd i'r sefydliad y bumed ran o'r pysgod ddelid ym mhysgodfeydd Rhuddlan; caniatad i brynu a gwerthu er budd Basingwerc yn ddidoll ymhob ffair a marchnad drwy eu tiriogaethau hwy; a thir pori i'r anifeiliaid berthynai i'r sefydliad yng ngwahanol rannau y wlad,' yr oedd tir pori i'w defaid mor bell a mynyddoedd Meirionydd yng nghyffiniau Llanuwchllyn a Llyn Tegid. Ymddengys i feddiannau'r sefydliad gynyddu llawer yn eu gwerth gyda threigliad amser; yn adeg Trethiad y Pab Nicolas, 1291, eu gwerth oedd £46 11s. Od., adeg diddymiad y mynachdai yr oedd y meddiannau yn werth £150 7s. 3d. yn ol Dugdale, a £157 15s. 2d. yn ol Speed. Ynglŷn â'r mynachdai yn gyffredin, ceid yr achyddwr, yr hanesydd neu'r cofiadur, a'r bardd. Cyfunai Guttyn Owain, bardd Basingwerc, y tair swydd ynddo ei hunan. Yr oedd yn achyddwr gwych, a dywedir i Harri VII. ei roi ar waith i olrhain ei
- ↑ Welsh Abbeys, pp. 11—12: John A. Randolph.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 129, Giraldus Cambrensis: W. LI. Williams.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 305: Newell.
- ↑ Archæalogia Cambrensis for 1891, pp. 128—134.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale. Pennant's Tours, vol. i., pp. 36—37.