Gatholig Rhufain, yr oedd pob teimlad o ymreniad wedi darfod. Credid yn y cyfnod hwn mai'r ddwy weithred fwyaf derbyniol gan Dduw y gallsai dyn eu cyflawni oedd—ymuno yn Rhyfeloedd y Groes, a sefydlu a gwaddoli mynachdy. Teimlai y tywysog awydd gwneud iawn am ei weithredoedd pechadurus, ac ar anogaeth dwyfol dduwioldeb," sefydlai grefydd-dy "er cadwedigaeth ei enaid ei hun ac eneidiau eraill." Gwnai y tywysogion Cymreig hyn yn fynych fel mater o bolisi. Perthynai i'r Babaeth allu aruthrol y pryd hyn." Yr oedd syniad ardderchog wedi rhoddi bod i Babaeth y Canol Oesoedd. Yr oedd i fod yn allu cyfiawn a phur, i achub y gwan rhag cam, i fod yn farnwr di-wyrni rhwng y diniwed a'r hwn a'i llethai, i fod mewn gwirionedd yr hyn a honnai fod,—datguddydd ewyllys Duw cyfiawnder a thrugaredd yn helyntion ac ymrafaelion teyrnasoedd y ddaear.[1] Ac nid "athrawiaeth bapur" mo hon; yr oedd y Babaeth lawer tro wedi bod yn fraich i'r gwan yn erbyn y cadarn. Rhoddodd Gregori VII. bob cymorth i'r Almaen yn ei hymdrech yn erbyn yr ymerawdwr, a rhoddodd Innocent III. yr un help i eglwys a barwniaid Lloegr yn erbyn. John. Onid ellid dwyn gallu y Babaeth i gynorthwyo anibyniaeth Cymru? Credodd Llywelyn Fawr fod hyn yn bosibl, a gweithredodd ar y gred hon. Aeth i gyfamod â'r Pab, a rhyddhaodd Innocent III. ef oddiwrth bob ffyddlondeb oedd cyfraith ffeudalaidd yn ofyn oddiwrtho i frenin Lloegr. A gellir dweyd ei bod yn rhan o wladweiniaeth y tywysogion Cymreig o amser Llywelyn Fawr hyd amser Owen Glyn Dwr i gadarnhau eu hunain drwy gyfamod gwleidyddol â Ffrainc a thrwy sicrhau cymorth y Babaeth i gysegru ac i sicrhau anibyniaeth Cymru. Ac i sicrhau ffafr y Pab yr oedd yn rhaid cofio am hawliau yr urddau mynachaidd. Y Cisterciaid oedd yr urdd ffafriwyd yn bennaf yng Ngogledd Cymru. Ymsefydlodd y Cisterciaid gyntaf ym Mhrydain yn Waverley yn y flwyddyn. 1129; yma, drwy ymdrechion Esgob Winchester—William Gifford—y codwyd eu habaty cyntaf. Daeth yr urdd i Gymru am y waith gyntaf yn y flwyddyn 1143,[2] ac ymsefydlasant yng Nghwm Hir, a chyn diwedd y ganrif yr oedd ganddynt sefydliadau blodeuog yn Ystrad Marchell, Aberconwy, Glyn y Groes, Cymmer. Y mae cwrs hanes Basingwerc yn wahanol i hanes mynachdai eraill Gogledd Cymru o fewn yr un cyfnod. Gorweddai y fynachlog hon ar lan y Ddyfrdwy, ac erys ei hadfeilion eto i roddi rhyw syniad am y mawredd berthynai iddi unwaith. Sefydlwyd hi, yn ol pob tebyg, gan y Normaniaid; ac yng Nghronicl St. Werburgh, enwir Ranulph, Iarll Caer, fel ei sylfaenydd a'r flwyddyn 1131 fel adeg ei sefydliad; myn eraill nad oedd y Ranulph hwn ond un o gymwynaswyr y sefydliad. Cred Leland mai y brenin Harri II. oedd y sefydlydd, tra yr haera Tanner i'r abaty gael ei gychwyn gan Iarll Caer ac i Harri II. berffeithio y gwaith a'i wneud yn sefydliad Cisterciaidd. mae defnyddiau hanes mor brin a'r awdurdodau yn gwahaniaethu gymaint oddiwrth eu gilydd, hwyrach mai yr unig gasgliad diogel y gellir dod iddo ydyw fod yn y fan hon grefydd-dy wedi ei sylfaenu gan rywun, ac iddo yn ddiweddarach gael ei droi yn sefydliad
Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/37
Gwedd