PENNOD IV.
MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU.
YR AIL GYFNOD.
WEDI gorchfygu Lloegr, nid aeth William y Gorchfygwr ymlaen i orchfygu Cymru. Nid damwain hyn, ond rhan o'i gynllun; yr oedd William yn awyddus i roddi gwaith i'w farwniaid terfysglyd rhag iddynt mewn adeg o hamdden wedi i gyfnod yr ymladd fyned drosodd, ddod yn elfen o berigl iddo. Gosododd y rhai cryfaf ohonynt ar ororau Cymru: Huw Flaidd yng Nghaer, Roger de Montgomeri yn yr Amwythig, a William FitzOsbern yn Henffordd. Rhwng y rhain yr oedd amryw eraill llai amlwg. Gwnai y rhai hyn eu goreu i wthio y Cymry o'u blaen i gyfeiriad y gorllewin. Yn ystod teyrnasiad William Rufus a Harri I., bu yr ymdrech hon ar ran y barwniaid yn neilltuol lwyddiannus, yn arbennig yn Ne Cymru. Enillasant bron yr oll oedd yn werth ei gael yn Ne a Dwyrain Cymru. Dyma yr adeg y ffurfiwyd Iarllaeth Penfro ac Arglwyddiaeth Morgannwg,[1] ac arglwyddiaethau llai pwysig, megis Gŵyr a Brycheiniog. Llwyddasant yn y Gogledd hefyd, ond nid i'r un graddau; ar y gororau yn unig y ffurfiwyd arglwyddiaethau Normanaidd yn y Gogledd, ym Montgomeri, Bromfield, Denbighland, a Chirk. Bu Gwynedd a'i thywysogion yn drech na grym ac ystrywiau y barwniaid Normanaidd. Cyfrif y gwahaniaeth hwn am y ffaith mai arglwyddi Normanaidd fel rheol geir yn sefydlu mynachdai yn Ne Cymru, tra mai y tywysogion Cymreig gymer y blaen gyda hyn, gydag un eithriad—Basingwerc,—yn y Gogledd. Wedi gorchfygu darn o wlad, codai y Norman ei gastell, a deuai mynach ar ei ol i weddio drosto ac i dderbyn tiroedd gan y trawsfeddiannwr pan ar ei wely angau. Yr oedd dwy urdd fynachaidd[2] wedi dod i amlygrwydd mawr yn ystod y cyfnod hwn—y Benedictiaid a'r Cisterciaid, y Benedictiaid ddaeth gyntaf i'r wlad hon a'r Cisterciaid yn eu hol. Yr oedd y Normaniaid yn fwy ffafriol i'r Benedictiaid; a sefydlwyd nifer dda o fynachdai perthynol iddynt yn Ne Cymru.[3] Yn y gwaith hwn mae a wnelom â'r mynachdai yng Ngogledd Cymru. Cyfyd y cwestiwn—Beth gyfrif am waith y tywysogion Cymreig yn codi mynachdai ac yn eu noddi hwynt? Ar y cychwyn, rhaid cymeryd yn ganiataol fod Cymru wedi ymostwng i'r anorfod—yr oedd wedi derbyn ffurf lywodraeth Eglwys Rhufain i fod yn rheol i'w heglwys hithau fyw a gweithredu wrthi; yr oedd hen eglwys y Cymry wedi ei cholli yn Eglwys