Prawfddarllenwyd y dudalen hon
a chael gan y cwfeniaid fabwysiadu eu hurdd a'u dull hwy o fyw.[1] Perthyn enwogrwydd i Feddgelert fel lle bedd Rhys Goch Eryri a Dafydd Nanmor, a chyfansoddwyd cywydd gan Lewis Daron, un o feirdd y bymthegfed ganrif, i Dafydd Prior Beddgelert yn dymuno arno roddi march yn anrheg i Sion Wynn o Wydir, ac yn ei ganmol am ei wybodaeth a'i haelioni. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd Priordy Beddgelert yn werth yn flynyddol, £70 3s. 8d. yn ol Dugdale, a £69 3s. 8d. yn ol Speed.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 276: Newell.