ydyw i'r esgobaeth gael ei sefydlu tua diwedd y chweched ganrif neu ddechreu y seithfed. Tybir i Deiniol ymneilltuo cyn ei farw i Enlli, ac yn hyn dilynai esiampl Dyfrig. Wedi marw Deiniol, yr enw nesaf ag y mae unrhyw hanes iddo ynglŷn âg esgobaeth Bangor yw Elfod; perthynai ef i deulu Caw, ac yr oedd yn yr esgobaeth oddeutu canol yr wythfed ganrif. Yr oedd Elfod yn wr lled ymhongar, ac ymgymerodd â newid amser y Pasg dros holl Gymru. Bu helynt flin ynglŷn â hyn. Bu farw Elfod yn y flwyddyn 809. Ymsefydlodd y Brodyr Cardod ym Mangor yn y flwyddyn 1277, o dan nawdd y brenin Edward I. Ceir ychwaneg ar hyn mewn pennod ddiweddarach.[1] Ail-gysegrwyd Bangor yn adeg y Normaniaid; Llanelwy oedd yr unig esgobaeth Gymreig lwyddodd i osgoi hyn.
Mynachdy Dyffryn Clwyd.—"Mynachdy wedi ei ddinistrio. Dywedir i fynachdy gael ei sefydlu yma gan Elerius Sant a flodeuai yn y seithfed ganrif.[2] Camgymeriad Tanner yw hyn am fynachdy Gwytherin gweler Penn. v. d.g. Gwytherin.[3]
Beddgelert. —Yr oedd un o grefydd-dai hynaf y wlad hon ym Meddgelert, gosodir ef yr agosaf i sefydliad Ynys Enlli o ran hynafiaeth.[4] Dywedir ar awdurdod Gerallt Gymro mai'r dosbarth o fyneich adnabyddir fel y Culdwys drigiennent yno ar y cyntaf.[5] Daeth y lle yn ddiweddarach yn gartref i ganoniaid Awstin; y ddau le arall yr ymsefydlasant yng Nghymru oedd Hwlffordd a Chaerfyrddin; caniataodd Anian esgob Bangor lythyr maddeuant y Pab i bawb roddai help i Briordy Canoniaid duon Beddgelert. Gwnai hyn fel ffrwyth ei ymchwiliad i hanes y sefydliad, dywedai y perthynai i'r Priordy amryw siarteri,—rhoddwyd un gan Llywelyn Fawr, tair gan Llywelyn ab Gruffydd, un gan yr Arglwydd Owen, ac un gan yr Arglwydd Dafydd. Yr oedd hefyd lythyrau oddiwrth y Pab ar gael yn ffafr y Sefydliad. Ac ar y cyfrifon hyn, dyry yr esgob ei nawdd dros y sefydliad, a chyfeiria yn neilltuol ato fel lle manteisiol i deithwyr rhwng Lloegr a Chymru a'r Iwerddon orffwyso a derbyn lletygarwch.[6] Dywed Pennant y perthynai myneich Beddgelert i urdd Gilbert—urdd sefydlwyd gan Gilbert, rheithor Sempringham—yr oedd "rheol buchedd" yr urdd hon yn gyfuniad o reol Awstin a rheol Benedict, yn ol trefniadau yr urdd hon caniateid i feibion a merched fyw ynghyd. Y rheswm ddyry Pennant dros ei olygiad ydyw iddo ddod o hyd i ddarn o dir yn agos i'r eglwys yn dwyn yr enw Dol y Lleian[7] . Blinwyd llawer ar Briordy Beddgelert gan Cisterciaid Aberconwy; ceisient wneud Beddgelert yn sefydliad dibynnol neu gell perthynol iddynt hwy,
- ↑ Pennod v.-Sefydliadau Mynachaidd
- ↑ Notitia Monastica, d.g. Sir Ddinbych: Tanner.
- ↑ Life of St. Winifred: Prior Robert of Shrewsbury
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 584
- ↑ Y Cymmrodor, ix., td. 156.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i. pp. 580, 581.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 344, 345; The Old Churches of Arllechwedd, p. xx., note: North.