Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

degwm berthynai i'r cylch y gwasanaethent ynddo; yn gyffredin un ran o dair "treian gweini" yr hen gyfreithiau; ai y gweddill i gynnal y fam eglwys yn Llanelwy. Credwn y ceir cnewyllun y sefydliad esgobaidd yn yr hen drefniad hwn, a dengys y modd y daeth y cyfnewidiad yn raddol oddiamgylch. Ni pherthyn dweyd dim am esgobaeth Llanelwy yn y gwaith hwn; myned dros y terfyn fyddai hynny. Dywedir i Tyssilio Sant ddilyn Asaph yn Llanelwy, ond nid oes sicrwydd am hyn; y cofnod cyntaf y gellir dibynnu arno ydyw yr un gyfeiria at apwyntiad Gilbert yn esgob Llanelwy gan Theobald, archesgob Caergaint, yn y flwyddyn 1143. Dywedir, fodd bynnag, i Chebar, esgob Llanelwy, fyned gyda Hywel Dda i Rufain i ymgynghori gyda'r Pab mewn perthynas i rai o hen gyfreithiau Cymru. Mae un o'r geiriau briodolir i Asaph wedi dod i lawr i'n dyddiau ni-"A wrthwyneba air Duw, a genfigena wrth iachawdwriaeth dyn."[1]

Bangor Deiniol.—Bangor Fawr yn Arfon. Sefydlwyd yr esgobaeth hon—arferir y gair nid yn ei ystyr ddiweddar—gan Deiniol mab Dunawd, sefydlydd Bangor Iscoed, ac ŵyr Pabo Post Prydain ; hannai o deulu Coel Godebog. Dywedir i Deiniol gynorthwyo ei dad yn sefydliad Bangor Iscoed, ac iddo yn ddiweddarach sefydlu Bangor Fawr yn Arfon, ac wedi hynny gwnaed hi yn esgobaeth gan Faelgwn Gwynedd;[2] ac apwyntiodd Dyfrig Deiniol fel yr esgob cyntaf. Ond nis gellir adeiladu fawr ar y ffeithiau hyn; ni ddywedir ar ba awdurdod y gallai tywysog Cymreig wneud esgobaethau; ac y mae y cyfeiriad at y rhan fu gan Ddyfrig ynglŷn â'r mater yn ddigon naturiol pan gofier mai amcan "Llyfr Llandaf" oedd dangos pwysigrwydd esgobaeth Llandaf a safle uwchraddol ei hesgob. Y tebygrwydd ydyw i'r sefydliad eglwysig gychwynwyd gan Ddeiniol ym Mangor fyned drwy gwrs o ddatblygiad cyffelyb i'r un yr aed drwyddo yn Llanelwy er dod yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Anodd yw penderfynu pa bryd y sefydlwyd yr esgobaoth gan Ddeiniol, awgrymir y flwyddyn 525 gan Olygydd y Cambro-Briton, ond mae y dyddiad hwn yn amhosibl; yr oedd Deiniol yn un dderbyniodd ei addysg ym Mangor Iscoed. Ni sefydlwyd Bangor Iscoed hyd hanner neu chwarter olaf y chweched ganrif.[3] Nis gallai Bangor yn Arfon, gan hynny, fod wedi ei sefydlu lawer cyn diwedd y chweched ganrif. Wrth fyned i mewn i'r cwestiwn o ddyddiadau, gwelir nad oes fawr sail i'r hyn ddywedir am Faelgwn Gwynedd a Deiniol. Bu farw Maelgwn Gwynedd yn y flwyddyn 547.[4] Bu Deiniol farw, yn ol yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 584.[5] Yr unig gasgliad diogel y gellir dyfod iddo

  1. Quincunque verbo Dei adversantur,
    Saluti hominum invident.
  2. Welsh Saints, p. 258: Rees. Celtic Britain, p. 248: J. Rhys.
  3. Liber Landavensis, p. 5.
    "We conclude from all this that Bangor monastery was not founded until the last half, or even perhaps the last quarter of the sixth century."-Cymmrodor, x. p. 15 A. N. Palmer.
  4. Annales Cambrice. Y Cymmrodor, vol. ix., p. 155.
  5. Lives of the British Saints, vol. i., 180: S. Baring-Gould and J. Fisher.