Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y flwyddyn Hanes Mynachdai Gogledd Cymru 573, a pharhaodd yn y swydd hon hyd ei farw yn y flwyddyn 612.[1] Cyn gadael Llanelwy am Glasgow, apwyntiodd Cyndeyrn Asaph. Sant yn olynydd iddo, a rhoddodd hyn foddlonrwydd i'r bobl ac i'r cwfeiniaid o fewn y sefydliad. Yr oedd Asaph yn un o ddisgyblion Cyndeyrn. Enw ei dad oedd Sawyl mab Pabo Post Prydain, a ddaethai i Gymru am nodded pan y gorchfygwyd ef gan y Gwyddyl Ffichti, a chroesawyd ef gan Gyngen brenin Powys, a rhoddwyd tir iddo i ymsefydlu arno. Yr oedd i Pabo amryw feibion, Dunawd, Cerwydd, Sawyl, ac Arddun; gwelir felly fod Asaph yn nai i sefydlydd mynachlog Bangor Iscoed—Dunawd, ac yn gefnder i Deiniol sefydlydd ac esgob cyntaf Bangor yn Arfon. Enw ei fam oedd Gwenaseth, merch Rhiain Hael o Rhieinwg. Daeth enw Asaph yn amlycach ynglŷn a Llanelwy na'r eiddo ei athro a'i ragflaenydd; cyfrif dau beth am hyn, ni bu Cyndeyrn mewn cysylltiad â'r sefydliad ond am dymor byr, oddeutu tair blynedd ar ddeg, 560-573, ond bu cysylltiad maith rhwng Asaph â'r lle, ac yno y rhoddwyd ei weddillion i orwedd. Cedwir coffadwriaeth am dano yn fyw ynglŷn â llawer o enwau lleoedd, megis Ffynnon Asa, Llanasa, Pantasa, Onen Asa; mewn ewyllys berthynol i'r ail ganrif ar bymtheg ceir yr ymadrodd "Gweirglodd Ffynnon Asaph."[2] Nid oes sicrwydd pa bryd y bu Asaph farw, cyfeirir at y flwyddyn 596, ond mae y dyddiad yna yn amlwg yn rhy gynnar. Ceir rhai cyfeiriadau at Asaph gan ein beirdd-gan Iolo Goch, Lewis Glyn Cothi, a William Lleyn[2]. Dyry hanes Cyndeyrn ac Asaph a'r cyfundeb o bobl a'u dilynai syniad lled dda i ni am y modd y datblygodd y sefydliad mynachaidd yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Buddiol, hwyrach, fyddai cyfeirio yn fyr at hyn. Ymsefydlodd dilynwyr Cyndeyrn mewn bythod o fewn y tir amgylchai yr eglwys yn Llanelwy, cadwent wasanaeth yn yr eglwys hon, ac o Lanelwy fel canolbwynt gwnaent ymdrech i efengyleiddio y wlad o amgylch. "Yn raddol, codid eglwysi yn y rhanbarthau hyn naill ai gan arglwyddi y cymydau neu gynrychiolwyr y tylwyth, a gwnai y sylfaenwyr fel rheol ddarpariaeth er eu cynnal, a deuent, yn ymarferol, yn eglwysi plwyf dan nawdd y sawl a'i gwaddolasant. Credir i'r rhan lluosocaf o'r "eglwysi tylwythol" gael eu bôd yn y modd hwn. Trefnid rhanbarth neu blwyf i'r eglwysi hyn, a chaent y degwm berthynai i'r rhanbarth.[3] Eglura yr un awdwr ymhellach y modd y cynhelid yr eglwysi hyn mewn adegau cyn bod talu degwm yn beth cyffredin; yn yr amgylchiadau hyn, gofelid am danynt gan y fam eglwys ac ystyrid yr eglwys ddibynnol fel chapel of ease a thrigolion y rhanbarth fel plwyfolion y fam eglwys. Gofelid am nifer o'r eglwysi hyn gan ganoniaid neu aelodau y sefydliad mynachaidd yn Llanelwy, ond dalient i fyw yn y lle diweddaf, ac nid o fewn cylch eu gofal. Yn ddiweddarach, gosodwyd Ficeriaid ar yr eglwysi, a rhoddid iddynt gyfran o'r

  1. 612 yn ol yr Annales Cambriǣ, 603 yn ol awdurdodau eraill.
  2. 2.0 2.1 Lives of the British Saints, vol. i., p. 184: S. Baring-Gould, J. Fisher.
  3. Portionary Churches of Medieval North Wales, p. 14: A. N. Palmer. The Diocese of St. Asaph, chap. i., pp. 1-10: D. R. Thomas. Notitia Monastica, d.g. Sir Filint: Tanner.