Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hyd eu diddymiad

51

Y fath newid awgrymir, yn y dernyn uchod, yng nghymeriad y bobl arweiniwyd gan Francis a Dominic. Tlodi oedd eu nôd angen y pryd hynny, ond erbyn hyn rhai "aml eu mwnai ydynt"; ar eu dyfod i'r wlad hon dewisodd yr urddau hyn rannau isaf, tlotaf, y trefi fel eu maes i lafurio ynddo, ond orbyn dyddiau Sion Cent "muriau teg mawr oedd eu tai"; ar eu cychwyniad allan buont yn foddion i ail-ennyn ffydd yn y wlad, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oeddynt wedi rhedeg i'r eithaf arall, wedi dod yn "gryfion ddiffodyddion ffydd." Dywedir i Sion Cent cyn diwedd ei oes adael Eglwys Rhufain ac ymuno â'r Lolardiaid, ac oherwydd hyn gall rhai edrych arno fel un yn ysgrifennu dan ddylanwad rhagfarn, a buasai grym yn hyn pe safasai tystiolaeth Sion Cent yn erbyn y myneich ar ei phen ei hun, ond cadarnheir ei dystiolaeth gan eraill oedd yn gydoeswyr âg ef. Ceir llu o gyfeiriadau yn Nafydd ab Gwilym at ddirywiad y brodyr crefydd:

Mawr yw siarter ei gartref,
Myharen o nen y nef.
Goreu im' fyned fal gwr,
Yn feudwy, swydd anfadwr.
Yna y cefais druth atcas,
Gan y Brawd a'r genau bras.

Ceir prawf fod y myneich wedi dirywio, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd mewn gwledydd eraill, drwy ddarllen Chaucer, Langland, Boccaccio, a Walter Map.¹ Erbyn canol y bymthegfed ganrif-yn nyddiau Lewis Glyn Cothi-yr oedd y myneich wedi mynd yn fwrn ar y wlad. Cymerent fantais ar ofergoeledd y bobl ac aent o amgylch gan gynnyg darnau o ddelwau y saint yn gyfnewid am angenrheidiau bywyd. A ganlyn ydyw disgrifiad y bardd o grwydriadau y myneich :-

Bob ddau y gler a ddeuyn,
Bob tri vry i dŷ pob dyn:
Wrth y drws un â'i grwth drwg,
A baw arall â'i berwg;
O'r lle bai arall a'i bib
A rhyw abwy a rhibib.
Un a bryn, er na bai'r wedd,
Delw o wydr er dwy lodwedd;
Arall a wnai, o'r lle noeth,
O gwr gwernen grair gwarnoeth;
Un a arwain, yn oriog,
Gurig lwyd dan gwr ei glog;
Gwas arall a ddwg Seiriol,
A naw o gaws yn ei gôl;
Drwy undeb orchi i'r Drindawd
Chuv o wlan acw, neu vlawd.²

"It is the satire of the Welsh bards upon priests and friars that unite them to the more
adventurous spirit of the earlier Renaissance in other European countries. Neither Langland nor Boccaccio is more severe on the black sheep of the Church than Dafydd ap Gwilym."--A Welsh Poet of Chaucer's Age; Quarterly Revieto, October, 1901: W Lewis Jones.

Gweithiau Lewis Glyn Cothi, tdd. 283, 281: Tegid a Gwallter Mechain.