Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru

Dyna un peth wnaeth ddiddymiad y mynachdai yn both posibl-y drwg locheswyd oddifewn iddynt; dwg drygioni y gallu a'i dinistria oddimewn iddo ei hun, â yn oddaeth ohono ei hun, derfydd am dano yn ogystal a'r corff allanol y glyn wrtho.

Ffaith arall y rhaid ei hystyried, wrth geisio cyfrif am waith y wlad hon yn goddef i'r mynachdai gael eu diddymu, ydyw y Diwygiad Protestanaidd. Mae pob digwyddiad mawr fel hwn yn cael ei hir baratoi; gwir yr ymddengys ar adegau fel yn torri allan yn sydyn, ond o edrych yn fanylach fe welir fod y sydynrwydd yn ymddanghosiadol yn hytrach na gwirioneddol. Uchaf y don fu yn codi yn raddol oedd cynhyrfiad mawr yr unfed ganrif ar bymtheg. Ym ysg dylanwadau eraill, bu i Lolardiaeth wneud llawr er chwyddo y don hon. Ffurf foreu ar gymdeithasiaeth oedd Lolardiaeth, a rhoddwyd llawer o rym i'r mudiad gan John Wycliffe a'i ddysg- eidia eth, a chan Wrthryfel y Bobl-y Peasant Rising-yn y flwyd dyn 1381. Yn ysgil cymdeithasiaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth ysbryd beirniadu-ysbryd beirniadu yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ac yn y Canol Oesoedd fe ystyrid yr Eglwys mor bwysig a'r Wladwriaeth. Y cyfeiriad arbennig gymerodd y feirn- iadaeth oedd ymosodiad ar y mynach a'r offeiriad yn yr Eglwys, ac ar y llywodraethwr anghyfiawn a gorthrymus yn y Wladwriaeth; a gwneid allan nad oedd gan y naill na'r llall hawl i warogaeth y Cristion. Un o'r cyhuddiadau ddygid yn erbyn y myneich oedd eu bod yn gwneud maddeuant am bechod yn beth rhy hawdd i'w sicrhau yr oedd par o hen esgidiau a chinio roddid i'r Brawd Cardod yn sicrhau maddeuant llawn. Rhoddwyd grym ych- wanegol i'r ymosodiad hwn ar y Brodyr Cardod gan y ffaith y caent ddiane yn llwyr rhag dwyn eu rhan o drethi y wlad. Edrychai yr urddau hyn arnynt eu hunain fel gwyr ffydd nid i'r brenin ond i'r Pab, ac ystyrient fod eu heiddo yn perthyn i'r diweddaf, ac oher- wydd hyn nas gallesid cyffwrdd arno gan Loegr. 2 A chan fod y fath gysylltiad agos, fel y danghosent hwy eu hunain, cydrhyng- ddynt âg Eglwys Rhufain, aeth y wlad i edrych arnynt fel goruchwylwyr y Pab-fol standing army Eglwys Rhufain. Cymerai y Diwygiad Protestanaidd wahanol ffurfiau mewn gwahanol wledydd; yr un amean oedd iddo a'r un ysbryd weithiai drwyddo, ond dibynnai dull ei ymddanghosiad i raddau mawr ar anian y genedl y gweithiai o'i mewn, ac ar ei hamgylchiadau. Yn yr Almaen a Ffrainc, yr ochr grefyddol oedd amlycaf yn y mudiad, ond yn Lloegr rhoddodd Harri VIII. er cyrraedd ei amcanion ei hunan, osgo wleidyddol i'r Diwygiad. Er rhwyddhau ei ffordd i ddwyn i ben ei gynlluniau ei hunan, penderfynodd y brenin wneud Eglwys Loegr yn anibynol ar Eglwys Rhufain, a chafodd wr o'r un feddwl ag ef yn Thomas Cromwell i gario allan ei gynlluniau. Rhagllaw yr oedd y brenin i fod yn ben Eglwys Loegr, efe oedd i

1 England in the Age of Wyclife, p 146: G. M. Trevelyan.
Historica Anglicana, i., 523-321: Thomas Walsingham...
They were a papal militia, independent of the Bishops, and owing allegiance only to
their own generals and the Pope... and by the time of the Reformation they were the
shame of the Papacy."-The Hibbert Lectures 1883, pp. 8-9: Beard.