Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderbyn yr arian ai gynt i'r Pab, a gwnaed llys i dderbyn pob apêl ai o lysoedd eglwysig Lloegr i lys y Pab. Rhan o'r un cynllun oedd gwanhau ymhob modd y sefydliadau hynny oedd yn brif ateg Eglwys Rhufain yn y wlad hon; ac fel y gwelwyd, yr oedd y mynachdai ymysg y blaenaf o'r rhai hyn, ac yr oedd eu cyfoeth yn symbyliad mawr i rai wedi rhoi eu bryd ar eu dinistrio: byddai cael meddiannau y sefydliadau hyn yn gryn help i wneud y brenin, i raddau mawr, yn anibynol ar y wlad—nod gwladweiniaeth Cromwell. Gwnai dwy ystyriaeth rwyddhau y ffordd i sylweddoli cynllun y brenin a'i weinidog Cromwell mewn perthynas i'r mynachdai; wedi'r newid fu mewn perthynas i gysylltiad Lloegr âg Eglwys Rhufain ymddanghosai'r myneich fel rhai yn noddi gelynion eu gwlad, ac yr oedd eu bywyd afreolaidd yn dystiolaeth bellach yn eu herbyn. Dywedid wrth Cromwell am Urdd Awstin yn Llundain, "Eu bod yn eistedd uwch ben eu cwrw'n lle gweddio, yn debycach i Wyddelod meddwon nag i wyr eglwysig. Nid oes fwy o reol arnynt nag sydd ar y diafliaid yn eu cartref. Mae'r plant yn debycach i hyddod ieuane yng nghoed Sherwood nag i blant yn dysgu crefydd." Yn wyneb yr ystyriaethau hyn, penderfynwyd anfon dirprwywyr i chwilio cyflwr mynachlogydd y deyrnas. Ni chafwyd y mynachdai cyn waethed lleoedd ag yr ofnai rhai, ond er hyn penderfynwyd eu dadwaddoli. Y mynachdai lleiaf, fe ddywedir, oedd y rhai gwaethaf, a dyma y rhai cyntaf y deliwyd â hwy rhai a llai o gyfoeth ganddynt na deucant yn y flwyddyn. Gwnaed yr ymchwiliad hwn yn ystod y blynyddoedd 1534 a 1535. Gwyddai'r dirprwywyr beth ddisgwylid oddiwrthynt, ac siomasant y sawl a'u hapwyntiodd, a derbyniasant eu gwobr. Rhoddwyd iddynt lawer o'r tir berthynai unwaith i'r mynachdai, a llawer o hen drysorau gedwid ynddynt. Ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ynghylch y modd y rhannwyd yr ysbail berthynai i'r hen fynachdai adeg eu diddymiad. Mewn erthygl yn yr Archaeologia Cambrensis, dyry Mr. Edward Owen beth cyfrif am yr hyn a ddaeth o'r clychau berthynai i'r sefydliadau hyn, ac mewn erthygl ddiweddarach yn yr un gwaith â rhagddo, gan roddi cyfeiriad eangach i'w ymchwiliad. Cyfeirir ganddo at y defnydd wnaed o'r plwm oedd yn adeilwaith y sefydliadau hyn—Margam, priordy Brycheiniog, Ystrad Fflur, Penmon, Llanllugan, Glyn-y-Groes, Cymmer, Rhuddlan, a Basingwerc. Dywedir ddarfod anfon y plwm oedd ynglŷn â'r sefydliad diweddaf i'r Iwerddon, ond pa un ai i amcanion y mint oedd yno, yr anfonwyd ef, ai i'r amcan o'i ddefnyddio ynglŷn â thoi y Castell, nid yw yn glir.[1] Pe buasai y tiroedd dderbyniwyd drwy ddiddymiad y mynachdai wedi eu ffurfio yn fath o "dir y Goron," gallasent fod yn ffynhonell o elw a gwneud llawer er ysgafnhau y trethi, ond ni wnaed hyn, yr oedd y brenin yn barhaus mewn angen arian, ac yr oedd y gwyr oedd o'i amgylch yn dyheu am dir yn wobr am eu ffyddlondeb. Bu diddymiad y mynachdai yn ddyrnod drom i'r eglwys, a llesteiriodd

lawer ar ei defnyddioldeb: trowyd llawer o eiddo i amcanion cy-

  1. Archeologia Cambrensis: vol. xiii, 5th series, pp. 262—265, also vol. xiv. 5th series, pp. 285—292,