Tudalen:Hanes Mynachdai.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru

ffredin ddefnyddid yn gwbl cyn hyn i amcanion eglwysig, ac er hyrwyddo buddiannau crefydd yn y wlad. Daeth llawer o wyr lleyg yn berchenogion bywoliaethau eglwysig, ac er derbyn ohonynt hwy swm mawr oddiwrth y cyfryw fywoliaethau, ni roddent hwy i'r ficeriaid wnant y gwaith ysbrydol yn y bywoliaethau hyn, ond yr hyn ganiateid i'r ficeriaid cyn y Diwygiad Protestanaidd. Ceisiwyd gwneud rhyw ychydig o iawn am y camwri a wnaed, ond hynod leied wnaed. Trosglwyddwyd y cyllid berthynai i Briordy Aberhonddu i Esgobaeth Tyddewi, ond ni pharhawyd hyn ond am un flwyddyn, ac yr oedd hyn yn engraifft o'r hyn a wnaed yn y rhan fwyaf o amgylchiadau—iawn mewn enw yn unig ac nid mewn gwirionedd. Ond er cyfyngu ar ei hadnoddau, byw a wnaeth yr eglwys, yr oedd elfen ddwyfol ynddi,—yr oedd fel y "berth yn llosgi ond heb ei difa."

"ANCR MEIRION."