Derwyn Beuno i Ddolgeran; ac oddi yno trwy ganol Morfa Genyt i Afon Braint ger Rhyddgaer; oddiyno i Abermenai; ac o Abermenai i Ro-bach; oddiyno yn agos i'r Hendai i'r Bryn Rhedyn; ac oddiyno i Faesyceirchdir; yna i Lyn Rhos-ddu; ac oddiyno trwy Gae'r tywyn i'r brif-ffordd; yna at y Maen Llwyd ; ac oddiyno gan amgylchynu ychydig i Lain y Groesfaen; yna at dy neilltuol yn y dref, a elwir y Plasuchaf; oddiyno i Dir Bodfel; yna at y Ty Mawr; ac oddiyno mewn cyfeiriad trofaol i'r Bryn Madog ym Morfa Malltraeth ; oddiyno i Gerrig Mawr; ac oddiyno dros Hendre 'r Orsedd i'r Glynteg; ac oddiyno i Gefn Mawr Isaf; oddiyno, yn agos i Hendre 'r Orsedd, i le a elwir yn gyffredin, y Dafarn Bridd; yna i'r Caeau Brychion; ac oddiyno i Lyn y Rhoshir (yn Rhos yr Aur); ac yna trwy Dir Nest (Llain Nest) i'r Bryn Sinc; ac yna gan amgylchu Cerrig y Gwŷdd, heibio i Ysgubor y Person cyrhaeddwn Glynnog Fechan o'r lle y cychwynasom y gylchdaith."
Nid ydyw y tir oedd gynt yn Gyttir (Common) neu dir cyffredin, yn cael ei alw yn awr yn Forfa Genyf. Y mae wedi ei rannu yn fân dyddynod, ac y mae terfyn y fwrdeisdref yn rhedeg o Ben y Wal ar hyd y Lon Dywod, rhwng Tros yr Afon a Glan yr Afon, i Lammau y Rhyddgaer, lle mae rhyd i groesi Afon Braint. Nid ydwyf yn gwybod a ydyw "Derwyn Beuno" a "Dolgeran" yn enwau yn bresenol ar feusydd yn agos i Glynnog, ai peidio. Mae yr Erwhirion a rhannau eraill o Glynnog Fechan ymhlwyf Niwbwrch. Efallai fod yr enw rhyfedd Erwhirion yn llygriad o Derwyn Beuno. Sant Beuno oedd un o'r tadau Cristnogol a wnaeth Glynnog Fawr yn Arfon yn enwog. Mae 'r enwau Clynnog Fechan a Derwyn Beuno yn profi fod rhyw gysylltiad rhwng y fferm hon ym Môn a'r Fonachlog Fawr oedd gynt yng Nhlynnog Arfon.
Yr wyf wedi methu cael allan lle 'r oedd Llain y Groesfaen. Mae ychydig o ffordd rhwng lle 'r oedd y Maen Llwyd, yn agos i Dal y Braich, a'r Plas uchaf yn enwedig wrth "amgylchu" o'r naill i'r llall, Yr wyf