dosbarth cyntaf a ddisgrifiwyd, yn trigo y rhan o blwyf Llanamo neu Rosyr a elwid yr Hendre. Ymhellach ymlaen rhoddir ffiniau neu derfynau yr hen fwrdeisdref, sef y gyfran honno o'r plwyf a ddelid ar y cyntaf gan y dosbarth isaf o gaethion. Yr oedd y dosbarth arall, sef trigolion yr Hendre yn rhyw hanner anibynnol, oblegid yr oedd eu daliadaeth neu eu tiroedd yn eiddo iddynt, ond eu bod yn rhwym i dalu eu gwriogaeth i'r Tywysog. Ar y llaw arall yr oedd y garddwyr yn rhwym fel caethion i'w harglwydd. Heblaw y ddau ddosbarth uchod oeddynt breswylwyr plwyf Rhosyr yr oedd perchenogion neu denantiaid trefi neu etifeddiaethau tuallan i'r plwyf hwn yn rhwym i dalu gwriogaeth i'r Tywysog neu y rhaglaw pryd bynnag y deuent i'r Llys. Wrth son am dref yn y fan yma, y mae 'r gair i'w ddeall yn ol ei hen ystyr. Er engraifft, gelwid Glan Morfa y Rhandir, a'r holl dir sy'n cyraedd rhwng y ffordd fawr a'r Morfa, a rhwng Lôn Bodfel a Lôn Dugoed, yn Dre Bill; a'r gweddill o'r Rhandir o Lon Dugoed i Grochon Caffo a elwid yn Dre Garwedd. Yr oedd deiliaid y ddwy dref yma, ynghyd a deiliaid rhai trefi cyfagos yn rhwym i dalu gwriogaeth cyffelyb i'r hyn delid gan y dosbarth uchaf o'r ddau ddisgrifiwyd o'r blaen. Hwyrach y manylir ychydig eto ar ddyledswyddau gwriogaethol y trefi hyn, mewn rhan arall o'r Llyfr.
4. FFINIAU NEU DERFYNAU Y FWRDEISDREF
Y mae'n rhaid i mi gyfaddef yn y fan yma ei bod yn anhawdd dilyn y terfynau, oherwydd fod rhai enwau yn ddieithr i hyd yn oed y trigolion. Ac oherwydd nad oedd yr awdwr yr hwn yr ymgynghorais ag ef (fel y y mae'n debyg) yn hysbys iawn yn y mater, bu gorfod iddo yntau ymddibynnu ar dystiolaeth eraill, oblegid ni phroffesa ei fod wedi cerdded y ffiniau, ond disgrifia hwy, "fel y'm hysbyswyd," meddai, "gan y trigolion ryw bryd yn ol"; felly y mae rhannau o'r disgrifiad isod yn lled dywyll. Fel hyn y dywed Rowlands:—"Gan gychwyn yng Nghlynnog Fechan, rhaid i ni fyned trwy