Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brenhinoedd dalu ymweliad â Niwbwrch, er ei bod yn faenor frenhinol. Er hynny dywedir i'r brenhinoedd Seisnig gadw arglwyddiaeth y faenor yn eu meddiant eu hunain am amser maith, oherwydd fod holl Gwmwd Menai bron yn rhwym wrthi, ac felly i dalu gwriogaeth i'r penadur, yr hyn oedd un o'r pethau pwysiccaf yngolwg brenin Seisnig. Ar ol adeiladu castell Caernarfon, gwnaeth y dirprwywr brenhinol ei gartref yn y lle hwnnw, ac oddiyno y gofalai am fuddiannau y brenin, yn Niwbwrch a mannau eraill. Tua'r flwyddyn 1850 tra'r oeddynt yn parottoi ar gyfer adgyweirio yr Eglwys daeth y Parch W. Wynn Williams, Menaifron, i wybod am ddwy gilfa fwaog, un yn y mur gogleddol a'r llall yn y mur deheuol, o'r ddau tu i'r allor. Yr oedd llawr pob un yn ymddangos fel pe wedi ei balmantu â maen lled fawr, gwyneb yr hwn oedd arw fel carreg gyffredin. Ond yn fuan iawn deallodd yr hynafiaethydd craff mai cerfiadau oedd yr achos i'r wyneb fod yn arw. Penderfynodd lanhau y meini y rhai oeddynt orchuddiedig gan gaenen dew o lwch, calch, a graian, mor galed bron ar cerrig eu hunain. Ar ol diwydrwydd mawr a llafur caled cafodd ei wobrwyo trwy iddo ddarganfod maen coffadwriaethol i un Edward Barker. Y mae y cerfwaith yn dra chelfydd a'r holl argraff mewn "llythyrenau codi" (raised letters); ac yn ol barn gwyr cyfarwydd ac enwog y mae 'r gwaith o arddull y drydedd neu y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hefyd yn y mur deheuol unwchben un o ffenestri corph yr Eglwys yr oedd maen arall ac arno enw Ellena Barker.

Bu'r hynafiaethydd parchedig a enwyd, am flynyddoedd lawer yn ceisio cael allan pwy allasai Edward Barker fod; ac yn "Record of Carnarvon" gwelodd enw David le Barker yr hwn oedd mewn rhyw gysylltiad a Niwbwrch, fel math o ddirprwy brenhinol, neu faer y fwrdeisdref. (Gwel Record of Carnarvon, "ex Novum Burgum, fol. 58, p. 85.")

Casglai Mr. Wynn Williams fod David ac Edward Barker o'r un teulu; a chan fod David yn dal swydd mewn cysylltiad a Niwbwrch, y mae'n debyg y gallasai