Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edward hefyd fod mewn rhyw fath o gysylltiad â'r un lle. Hefyd casglai yr un boneddwr mai Cymraes oedd Ellena Barker, oblegid yn Record of Carnarvon, yn fuan ar ol enw David le Barker, darllenodd; "Et Elena fil Ma'd ap Hei'li tenet &c." Mae yr Ap yn enw tad Elena yn profi mai Cymro oedd efe, ac os yr un oedd Ellena Barker a'r Elena uchod, yr-oedd Edward Barker, fel y sylwyd, wedi priodi Cymraes.

Yr wyf wedi manylu ychydig yn y fan yma i ddangos nad oedd Niwbwrch yn llai pwysig yn fuan ar ol y goresgyniad Seisnig nag oedd o dan lywodraeth y tywysogion Cymreig cyn hynny. Yr unig wahaniaeth oedd hyn, sef bod y dirprwywr yn aros yng Nghaernarfon yn lle bod yn byw yn Llys Niwbwrch. Ond gan fod Capel Mair o adeilwaith mor ardderchog, y mae lle i gasglu fod rhyw uchelwr yn trigo yn y Llys tua'r un adeg ag yr oedd David ac Edward Barker mewn cysylltiad â Niwbwrch. A chan fod meini coffadwriaethol i Edward Barker a'i wraig yn yr Eglwys sydd o fewn ychydig latheni i'r man y safai y Llys arno, onid ydyw yn naturiol i ni gasglu mai gwr y Llys oedd Edward Barker?

Os oedd David le Barker yn ddirprwy uchel yng Nghaernarfon, gallasai Edward Barker fod yn ddirprwy lleol yn Niwbwrch,—yn faer neu oruchwyliwr brenhinol, ryw bryd ar ol i Rosyr gael ei dyrchafu i safle corphoriaeth frenhinol pryd y newidiwyd ei henw i Newborough.

Arol i lawer o'r arglwyddiaethau maenorawl Cymreig gael eu rhoddi neu eu gwerthu gan y Llywodraeth i ddynion o ddylanwad yn y Llys brenhinol yn Llundain, yr oedd Niwbwrch o hyd yn cael ei llywodraethu, a barn yn cael ei gweinyddu yno dros holl Gwmwd Menai,gan swyddogion "y rhai gan amlaf a dderbynient eu hawdurdod oddiwrth benaethiaid yr Ynys, i'r rhai fel goruchwylwyr y faenor y telir ugain swllt yn y flwyddyn, ac fel cynrychiolwyr y Cwmwd telir pum punt yn flynyddol o drysorlys y tywysog; ac y mae y ddwy swydd yn gyffredin yn cael eu gweinyddu gan yr un personau." (Rowlands.)