Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond os cofiwn fod gan yr hen frenhinoedd lawer mwy o awdurdod unbenaethol neu bersonol nag sydd gan ein teyrn yn awr, gallwn amgyffred rhyw ychydig ynghylch arferiad y brenin yn rhoddi y cyllid oddiwrth y fwrdeisdref hon i ryw ffafryn, neu yn gwerthu maenor arall i bendefig cyfoethog. Nid oes gan ein benhines ni ddim hawl bersonol yn nefnyddiad cyllid rhyw fwrdeisdref; ond gallai brenin yn y canoloesoedd roddi ardrethi, trethi, dirwyon neu gyllid oddiwrth fwrdeisdref i'w fab neu i'w ferch neu i ryw wr mawr, i fod yn "bres poced". Fel esiampli gadarnhau hyn yr wyf yn ysgrifenu isod yr hyn a ganfum mewn hen ysgrif-lyfr. Dywedir ddarfod i Edward II. ganiatau cyllid oddiwrth amryw leoedd, ac yn eu plith Niwbwrch, i John ei fab ac i Alianor gwraig ei fab:

"Edward II. Rex. A.D. 1312.

Anno 12. Edward II. The Manors of Rossir (Newborough), County Anglesey,-Dolbenmaen and Penaghan (Penychan), and the Commot of Menay, valued at £170 per annum were granted for the support of John, son of Edward II., and his wife Alianor, these were leased in 5 Edward III. to William Pillaston the king's valet at an increase of 5s. 4d. having before been granted as pin money to Isabella, Queen of England."

Yn 26 Edward III., bu John Delves, Broughton, dros Iarll Arundel, swyddog y Llywodraeth, yn cymeryd cyfrif o holl feddiannau "gwyr mawr Môn". Mae hanes yr holl waith mewn llyfr yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Rhoddir yr holl gyfrifon a'r hanes yn yr iaith Lladin arferedig yn y cyfnod hwnnw. Pe cyfieithid y llyfr i'r Seisneg byddai 'n dra dyddorol, oblegid ceid trwyddo weled Sir Fon, ei thrigolion a'u heiddo, fel yr oeddynt dros bum can mlynedd yn ol. Yr wyf wedi gweled ychydig a gopiwyd o'r Extent hwn, ac yr wyf am ei ysgrifenu yma fel y caffo y darllenydd ryw syniad bychan am ei gynhwysiad. Cyfeirir yn y dyfyniad canlynol at Fwrdeisdref Niwbwrch,—"Burgu in Comoto Meney.”