Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddywed: "O barth i ansawdd y tir rhaid i mi sylwi fod yr holl gymydogaeth yn dra chynyrchiol, ac yn gyfaddas i bori anifeiliaid, neu i gynyrchu grawn, yr hyn a briodolir i'r awelon halaidd a chwythant drosto. Y mae rhan o'r diriogaeth a wyneba haul hanner dydd yn cynhyddu ac yn cael ei hadnewyddu beunydd drwy ei bod yn cael ei thaenellu beunydd â thywod halawg o'r môr, er fod gyrriad y tywod gan wyntoedd cryfion y de-orllewin wedi bod yn dra anfanteisiol i'r dref hon lawer pryd."

Gŵyr ein amaethwyr yn dda mor llesol i'r tir ydyw y gwrtaith a elwir guano; ac o'r mathau o wrtaith ag sy'n myned dan yr enw hwnnw, nid oes un yn fwy gwerthfawr na'r Peruvian guano; ond gwyr y morwyr hynny a fuont ar ororau gorllewinol America Ddeheuol mor ddiffrwyth a diffaith yr ymddengys yr ynysoedd a lleoedd eraill lle yr oedd y guano mewn gorlawnder. Lled debyg yw y tywod yn ei effeithiau; y mae'n llesol iawn i lawer math o dir os defnyddir ef yn gymedrol, ond lle y mae wedi gorchuddio cannoedd lawer o erwau â llawer o droedfeddi o drwch ohono y mae'r fendith yn troi i fod yn ddinystr anrheithiol.

Bu 'r lluwchfeydd ar rai adegau yn ddychrynllyd. Y mae'n amhosibl dirnad bron o ba gronfa ddihysbydd y daeth y miliynau tunelli o dywod a orchuddiodd ran mor fawr o wlad deg a ffrwythlawn, os na chredwn yr hen draddodiad a ddywed fod bàriau a banciau Morgilfach Caernarfon un adeg yn gwneud i fyny rannau o blwyfi Llandwrog, Clynnog, a Llanddwyn. Os felly yr oedd, y mae'n rhaid mai yn amser rhyw ystormydd gerwin y torodd nerthoedd y weilgi anwrthwynebol dros derfynau y gwastadedd bras, ac y rhychodd wyneb y tir gan ei droi yn draeth ansefydlog, yr hwn drachefn a chwalwyd gan y dymhestl ac a yrwyd yn dew gymylau tywodlyd i orchuddio broydd eang, ac i droi y Falltraeth yn dir ffrwythlon.

Y mae y difrod mawr diweddaf yn ninystriad Braich Abermenai, yr hyn sy'n bwgwth cau i fyny fynedfa ddeheuol y Fenai, yn ddarlun bychan o'r modd y