dywod, yr hwn a yrrwyd gan y gwyntoedd oddiar lennydd cyferbyniol Arfon; ac y mae y lluwchfeydd tywod yma wedi bod mor andwyol i'r llanerch hon fel y maent wedi llwyr orchuddio tai a gerddi, a gweirgloddiau y rhai debygid oeddynt gynhyrchiol dros ben yma yn yr oesoedd gynt fel y gweinyddid cynhaliaeth gysurus i lawer o deuluoedd; ond y mae eu haneddau wedi eu claddu yn ddwfn dan y bryniau tywodlyd yma; etto, ar amserau bydd y gwyntoedd ystormns yn chwalu y tywod, ac yn dadenhuddo adeiladau i oleu dydd, fel eu gwelwyd gan lawer; ond fe 'u cleddir yn ddwfn eilwaith mewn byr amser, lle y byddant yn gladdedig am oesoedd drachefn."
Nid ydwyf fi am ddweyd dim i ddadymchwelyd, nac i geisio cadarnhau, y traddodiadau uchod, na sylwadau yr hynafiaethydd; ond yn ol deddf cyfatebiaeth gellir dyfod i benderfyniad fod cnewyllyn y gwir a'r ffaith yn y traddodiad a'r chwedl, oblegid y mae llawer o bobl sy'n awr yn fyw yn cofio gwastadeddau gwyrddion a phorfaog yn lle y llanerchau sy'n bresennol megis yn ymfalchio yn eu ponciau llwydion tywodlyd.
Pe byddai i ddieithrddyn ymweled a thywyn Niwbwrch a sylwi ar y cannoedd aceri sydd o dan dywod, a phe clywai rhyw hen frodor yn disgrifio y gwahaniaeth rhwng ystad y plwyf yn awr a'r hyn oedd pan oedd yr henafgwr yn blentyn; a phe byddai iddo gymharu y Gwning-gaer Fawr a mannau eraill â'r hyn oeddynt yn yr oesoedd gynt, yn ol hanes credadwy, byddai y canlyniad yn ddigon i'w lenwi â syndod, wrth feddwl fod y bryniau a'r breichiau mawrion o dywod wedi eu gyrru o rywle i ddiffeithio un plwyf cyfan, ac i orchuddio cyfran fawr o blwyf Niwbwrch sy'n terfynnu ar y plwyf anrheithiedig.
Mewn un man, y mae Rowlands yn canmol tir Clynnog Fechan oherwydd fod y fferm honno "yn cael ei thrwytho â'r tywod a chwythir oddiyno (Morfa Ceinwen,) cystal â'r trwch halawg o'r mor," ac felly yn ei wneud yn dra chynyrchiol. Ond mewn man arall, wrth gyfeirio at ran o blwyf Niwbwrch, efe