sefyllfa etifeddiaeth Tynyrallt hefyd, o herwydd difrod y tywod, yn gyfryw fel mai prin y gallai gynnal teulu cyfoethog mewn urddas cymhesur ag eiddo eu hynafiaid.
Yn yr amser adfydus y ceisir ei ddisgrifio yn y bennod nesaf symudodd teuluoedd urddasol o Niwbwrch, gan adael eu tiroedd i dir-ddeiliaid; ac amgylchiadau'r dref yngofal gwŷr cyffredin heb fawr o addysg na da y byd hwn. Dyna y rheswm i drigolion Niwbwrch ddeisebu am ryddhad oddiwrth ddyledswyddau bwrdeisiol yr oedd y rhai a allent werthfawrogi a chynnal hunan-lywodraeth wedi ymadael o'r lle, a'r gweddill yn rhy isel eu hamgylchiadau, neu yn rhy anwybodus, i fwynhau breintiau a werthfawrogid gan y tadau gynt.
7. PRIF ACHOS DADFEILIAD BWRDEISDREF NIWBWRCH
Yr hyn sydd yn tynnu sylw mawr dieithriaid pan ar ymweliad yn Niwbwrch ydyw y cyflawnder mawr o dywod sy'n gorchuddio holl blwyf Llanddwyn (y Gwning—gaer Fawr yn bresennol,) ac yn bwgwth plwyf Niwbwrch â'r un dynged a syrthiodd i ran y plwyf cymydogaethol.
Nid ydyw o un pwrpas i mi ddisgrifio fel y mae pethau yn awr, ond hwyrach na fyddai yn anyddorol nac anfuddiol nodi yr hyn ddywed hynafiaethwr enwog mewn perthynas i'r difrod a gyflawnwyd gan y tywod; ac hefyd ychwanegu rhai sylwadau o'r eiddof fy hun.
Clywais lawer gwaith y traddodiad yn cael ei adrodd, sef y byddai offeiriad Llanddwyn yn gallu myned ar draed i Glynnog yn Arfon, ar hyd y tir oedd gynt yn ffurfio gwlad helaeth yn y man lle y mae tonnau y weilgi fawr yn chwareu ar fanciau peryglus Morgilfach Caernarfon, fel y prancia ŵyn ar y ddol. A phwy sydd heb glywed hanes traddodiadol Tre Gaeranrhod oedd ger Dinas Dinlle?
Dywed Rowlands am Landdwyn, fel hyn: "Y mae y cyfan bron wedi ei orchuddio gan drwch mawr o