Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gellir beio y Senedd yn pasio penderfyniad nad oedd gan Niwbwrch un hawl i bleidleisio mewn etholiad Bwrdeisiol.

Faint bynnag o ddaioni a ddeilliai i Niwbwrch yn yr hen amser, fel Llys Cwmwd Menai, oddiwrth yr hyn a ddygid yno gan y rhai oedd yn rhwym i dalu eu gwriogaeth i'r llywodraethwr, y mae'n sicr i oresgyniad y Seison, yn enwedig symudiad yr hen Lys o Niwbwrch, gyfnewid llawer ar ei safle yn y cyfeiriad hwnnw; oblegid ni ddeuai y brenhinoedd Seisnig yno fel yr arferai y tywysogion Cymreig, ac fel canlyniad elai trethi, ardrethi, a dirwyon y Cwmwd i le mwy canolog a Seisnig, megis Beaumaris neu Gaernarfon, ac yna i Lundain.

Efallai hefyd fod y ffeiriau mawrion a gynhelid yma gynt, a'r rhai a ddygent elw i'r dref, wedi tyfu o'r cynulliadau mawrion arferol mewn oesoedd gwriogaethol.

Mae'n debyg nad oes modd cael allan beth oedd y gangen diwydrwydd, neu foddion cynhaliaeth y dosbarth isaf yn y dref, yn yr adeg yr oedd hi yn fwrdeisdref lwyddiannus, sef cyn ei difreiniad. Un peth sydd sicr, sef bod y faerdref yn amser y tywysogion, a'r fwrdeisdref mewn cyfnod diweddarach yn ganolfan gwlad frâs, cynwysedig o blwyfi Llanddwyn, Niwbwrch, Llangeinwen, a Llangaffo.

Yr oedd yn y plwyf ddwy gangen o deulu Bodowen, y tylwyth cyfoethoccaf a mwyaf dylanwadol ym mharthau gorllewinol a deheuol Môn am oesau lawer. Yr oedd teulu Lewis Owen yn perchenogi etifeddiaeth y Frondeg a'r Rhandir. Etifeddiaeth teulu Gibbon Owen, o'r Plas Newydd yn Niwbwrch, oedd plwyf Llanddwyn, a thyddynod ymhlwyf Niwbwrch.

Dywed Rowlands: "Hefyd gwelwn fod William Gruffydd Penyrallt (Tynyrallt?); Lewis Hughes o'r Bryniau; ac ychydig eraill, wedi cadw eu tiroedd treftadawl yn eu teuluoedd eu hunain."

Diffeithiwyd Llanddwyn a rhan fawr o blwyf Niwbwrch gan y tywod; a hynny, mae'n debyg, a achosodd i Oweniaid Plas Newydd ymadael o'r dref. Yr oedd