Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ei moddion a'i hadnoddau yn ddigon i gyfarfod y galwadau oedd ynglyn â'r anrhydedd y codwyd hi iddo. Parhaodd i fod yn brif dref y Sir am yr ysbaid o bum mlynedd a deugain, sef hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Edward VI.

Yr oedd y draul o gynnal Bwrdais neu gynrychiolydd yn Llundain yn chwe' swllt y dydd, yr hyn oedd yn swm mawr iawn y pryd hwnnw, pan nad oedd prisiad degwm yr holl blwyf ond 10 13 7. Ac heblaw hynny yr oedd taliadau eraill a chostau y llysoedd yn pwyso 'n drwm ar fwrdeisdref fechan. Yr anhawsder ariannol a orfododd fwrdeisiaid Niwbwrch i ddeisebu am gael eu rhyddhau oddiwrth y breintiau oeddynt wedi troi i fod yn iau drom iawn.

Os sylwir yn fanwl, canfyddir fod Niwbwrch yn brif lys cantref a chwmwd yn amser y tywysogion Cymreig, a'i bod yn fwrdeisdref er teyrnasiad Edward I. Gwelir hefyd mai yn fwy diweddar o lawer y daeth am ychydig i fod yn brif dref y Sir. Pan y darfu i fwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebu y llywodraeth yn niwedd teyrnasiad Harri VIII., a dechreu teyrnasiad Edward VI., am ryddhad oddiwrth ei breintiau, a oeddynt yn erfyn am eu rhyddhad oddiwrth eu breintiau bwrdeisiol ynghyd ag oddiwrth y beichiau oedd ynglyn a bod yn brif dref y Sir? Dyma gwestiwn y bu llawer o daeru yn ei gylch yn niwedd yr eilfed ganrif a'r bymtheg, a dechreu y ddeunawfed ganrif, fel y cawn weled mewn pennod arall. Os nad oedd y bwrdeisiaid yn Niwbwrch yn deisebu am ddifreiniad hollol, yn gofyn am ddiddymiad eu hen freintiau bwrdeisiol yr un fath a'r breintiau a ganiatawyd iddynt yn fwy diweddar, paham y peidiasant am gyhyd o amser yn ddilynol i'r pryd y dychwelwyd y breintiau i Beaumaris, i ymarfer, neu ddefnyddio eu breintiau bwrdeisiol trwy fyned i Beaumaris i bleidleisio dros Fwrdais? Os oedd ganddynt hawl i bleidleisio rhwng 1548, a 1698, (y flwyddyn y ceisiasant adnewyddu eu hawl i bleidleisio,) yr oedd eu hesgeulusdra yn anfaddeuol, yn peidio defnyddio eu hawl, a braidd