yn 1541; a John ap Robert Lloid yn 1547. Y rhai hyn ydynt yr unig bersonau a enwir fel cynrychiolwyr dros fwrdeisdref Niwbwrch.
Ni cheir enw neb fel wedi cynrychioli bwrdeisdrefi Môn cyn senedd 1541, gan hynny y mae bron yn sicr mai Niwbwrch a anfonodd y cynrychiolydd bwrdeisiol cyntaf erioed a Fôn i Senedd Llundain. Gwelsom yn y bennod o'r blaen nad oedd yn gyfreithlon i Gymro dderbyn swydd hyd yn oed feili neu gwnstabl mewn castell, dinas, neu Sir, o dan y brenhinoedd o flaen y Tuduriaid.
Ond ar ol i Harri VII., ŵyr i Owen Tudur o Benmynydd ym Môn, esgyn i'r orsedd yn 1485, symudwyd cyhoeddiadau gwrthwynebus; ac yn nheyrnasiad Harri VIII., fel y dywedwyd eisoes, diddymwyd deddfau gorthrymus, a dyrchafwyd Cymru i afael cyffelyb freintiau â'r rhai a fwynheid yn Lloegr. Llys Llwydlo oedd uwchben Cymru drwy 'r oll o'r cyfnod tywyll; a'r pryd hynny, pan ddeuai swyddog Seisnig i weinyddu yma, yr oedd yn naturiol iddo yn Sir Fon gynnal ei lys yn Beaumaris Seisnig, lle 'r oedd Castell a milwyr Seisnig, a llawer o Seison wedi ymsefydlu ers oesoedd. Y pryd yma yr oedd pob peth Cymreig, ac yn eu mysg yr hen gyfreithiau, a'r hen lysoedd a threfniadau Cymreig yn Niwbwrch, o dan gwmwl, a phob ffafraeth Seisnig yn cydgyfarfod yn Beaumaris.
Ond yn nheyrnasiad Harri VII., y mae'n ymddangos i ryw Mancus, Llysgenad o'r Hisbaen, ymweled â Beaumaris, lle y digiwyd ef gan y trigolion.
Yn ddilynol efe a roes y fath gymeriad anffafriol i'r lle a'r preswylwyr, ger bron y brenin yn Llundain, fel y perswadiwyd y teyrn hwnnw i ddifreinio Beaumaris, ac i symud holl achosion y Sir i gael eu trin yn Niwbwrch. Felly dyrchafwyd y lle oedd o'r blaen yn amser y tywysogion yn llys cantref a chwmwd, i fod y brif dref yn y Sir, a'r lle y gweinyddid cyfreithiau yn ol y drefn Seisnig.
Ond er i amgylchiadau ddyrchafu Niwbwrch i fod y lle pwysiccaf yn yr Ynys, canfuwyd yn fuan iawn nad