cydymgeisiol â Niwbwrch fel y prif fan i gynnal llysoedd. Yn amser y tywysogion Cymreig yr oedd llysoedd pwysig ymhob cantref a chwmwd; ond pan ddaeth y Seison i lywodraethu, eu trefniant hwy oedd canoli pob awdurdod mewn un lle. Awgrymwyd eisoes y rheswm paham y dewiswyd Beaumaris fel y brif dref, yn hytrach na rhyw fan arall. Pan basiwyd deddf yn nheyrnasiad Harri VIII., i ddiddymu deddfau gorthrymus Harri IV., cyhoeddwyd trigolion Cymru a'u holynwyr "yn rhydd oddiwrth y beichiau hynny dros byth. A bod Siryf gwlad Fôn i gynnal, neu beri cynnal, ei holl lys, oedd yn Niwbwrch, a'i fod ef yn rhwym i wneud hynny yno rhagllaw, ac nid yn un lle arall, o fis i fis, neu o flwyddyn i flwyddyn." (Rowlands)
6. DYRCHAFIAD Y FWRDEISDREF YN YR UNFED GANRIF AR BYMTHEG
Rhwng 18 Edward IV. a I William a Mary yr oedd Cymru yn cael ei llywodraethu gan Arglwyddraglawiaid y Cyffindiroedd y rhai a reolent o Lwydlo (Ludlow), yn Sir Henffordd. Mae llawer o gwyno oherwydd nad ydyw côflyfrau (records) y Llys hwnnw ar gael. Pe ceid gafael ar y rhai hynny y mae'n ddiameu y ceid llawer o oleuni ar bethau sy'n awr yn dywyll, ac efallai y deuai peth o hanes Niwbwrch, i'r amlwg, a'r hyn a gyfanai lawer ar yr hanes anghysylltiol sydd yn ein meddiant yr bresennol.
Tua diwedd teyrnasiad Harri VIII., dygwyd Cymru i gysylltiad agosach â'r llywodraeth ganolog Seisnig yn y Brif-ddinas, drwy iddi gael caniattad i anfon cynrychiolwyr i'r Senedd yn Llundain. Oherwydd hynny daeth Niwbwrch i safle amlwg fel un o fwrdeisdrefi y deyrnas, oblegid hi a anfonodd Fwrdeisiaid i seneddau 33 Harri VIII., (1541) a 1 Edward VI.(1547).
Ievan ap Geoffrey[1] oedd cynrychiolydd Niwbwrch
- ↑ Yn ol rhai cofnodion Richard ap Rhydderch o Myfyrian oedd yr aelod. Richard ap Rhydderch a adeiladodd Blas Llanidan, ac a aeth i fyw yno.