modd llymaf, a phob math o ddirwyon a gwasanaeth caethiwus yn cael eu gosod ar y Cymry,-y gwahanol swyddogion Seisnig gyda'r esgus leiaf, neu heb un math o esgus, yn gorfodi 'r trigolion Cymreig i dalu ardrethi, trethi, a dirwyon i lenwi pocedau y gorthrymwyr. Yr oedd gorthrymdrethi, a elwid ebediw, ac eraill a elwid arian moch, y Geiniog Ben, arian gwaith Llys, arian pentai, fforffed Caer, ystor ustus, porthiant march, arian heylgoed, a blawd ac ymenyn, yn dyhysbyddu 'r wlad ac yn lladd egni y trigolion.
Yr oedd y bwrdeisdrefi Seisnig yng Nghymru yn rhyddion oddiwrth y dirwyon hynny, ac yr oedd Beaumaris fel ag yr wyf yn deall yn cael ei chyfrif fel yn perthyn i ddosbarth y bwrdeisdrefi Seisnig. Yr ydwyf eisoes wedi dangos fel yr oedd Beaumaris ers oesoedd wedi ei dwyn o dan ddylanwad tramorwyr, oblegid ei bod bob amser yn fan lle gallai goresgynwyr yr Ynys lanio gyda rhwyddineb. A chan fod y dref honno ynghyd a Bangor[1] a mannau eraill wedi cydymffurfio a'r arferion Seisnig i raddau pell, yr oeddynt yn wrthwynebol i'r adfywiad Cymreig yn nheyrnasiad Harri IV.
Gan fod y trefi uchod yn cael eu cyfrif yn Seisnig, yr oeddynt yn rhyddion, tra 'r oedd Niwbwrch, a threfi a mannau Cymreig eraill, o dan ŵg Seisnig yn cael eu gorthrymu, a'u breintiau cyntefig yn cael eu hattal oddiwrthynt.
Yn y cyfnod tywyll hwnnw collodd Niwbwrch am ryw ysbaid ei breintiau fel bwrdeisdref, ac fel Llys cantref a chwmwd. Gelwid troseddwyr Cymreig, a rhai y tybid eu bod wedi troseddu, o flaen barnwyr Seisnig yn y mannau mwyaf hwylus gan yr uchelwyr hynny. Yn Beaumaris yr eisteddent pan y deuent i Sir Fôn, ac felly dyrchafwyd y dref honno i fod yn lle
- ↑ Cyfeirir at ddylanwad yr esgobion Seisnig. Llosgwyd Eglwys Gadeiriol, Bangor gan Owen Glyndwr oherwydd ei bod yn nythle i Seison, Yr oedd Dafydd Daron, y Deon Cymreig, yn bleidiwr zelog i Glyndwr.