rhaffau, fel yr arferir, a rhag rhyddhau y tywod trwy hynny, ac iddo gael ei guro, ac felly i'r dref gael ei gorchuddio yn anisgwyliadwy."
Yr wyf yn gobeithio nad ydwyf wedi rhoddi disgrifiad rhy faith wrth ysgrifenu ar yr achos yma. i ddadfeiliad Niwbwrch. Gyrrwyd ymaith bob ynni ac anturiaeth o ysbryd y tyddynwyr; a safodd amaethyddiaeth yn syn uwchben effeithiau yr ystormydd anrheithiol. Gallwn enwi rhai o'r hen dadau a wrthodasant dir i'r dehau o bentref Niwbwrch, a hynny ar brydles hir ac ardreth isel iawn, oherwydd fod y tywod gwŷn yn drwch mawr yn gorchuddio 'r holl fro. Gyrrwyd teuluoedd lawer o'u tyddynod yn Llanddwyn a Niwbwrch, gan yr anrhaith tywodlyd, a thaflwyd hwynt i ymddibynnu ar y rhan o Niwbwrch oedd heb ei niweidio, ac i geisio noddfa yn y dref. Nid oedd gweithfeydd yn agos, ac ni oddefid i ddieithriaid ymsefydlu mewn plwyfi eraill; ond rhywfodd cysylltwyd Llanddwyn â Niwbwrch, a thaflwyd felly laweroedd i bwyso ar bentref oedd eisoes yn rhy lawn o drigolion.
Y mae llawer o bobl ag sy'n awr yn fyw yn cofio Niwbwrch yn isel ei chyflwr, a'r mwyafrif o'i thrigolion yn dlawd ac anghenus, er i bob ewin yn y lle fod yn ddiwyd yn y gwaith môrhesg; ond pwy all ddirnad y cynni, yr angen, a'r tlodi oedd fel cwmwl dudew uwchben y plwyf pan oedd cyfraith yn bwgwth cosbi 'n llym y neb a dorrai fôrhesg i geisio cadw 'r newyn draw.
Dyma ni yn awr wedi gweled y bwrdeisiaid ar y gris isaf yn y dadfeiliad cymdeithasol. Ni raid i ni ryfeddu oherwydd iddynt ddeisebu y llywodraeth a cheisio rhyddhad odiwrth y beichiau neu'r gost ynglyn â breintiau prif dref yr Ynys. Mae llawer bachgen tlawd yn ein dyddiau ni wedi llafurio 'n galed a chynilo i gaslu arian i brynu tir neu dŷ er mwyn sicrhau breintiau lled amheus; ond wedi cael rhosyn y ddinasfraint, ceir fod galwadau a threthi trymion fel y pigau sydd dan y rhosyn yn gwaedu 'r llaw nes