gwneud i'r perchennog ar lawer adeg syrthio i brofedigaeth a bod ar fin taflu 'r fraint a'r cwbl o'i law, a chanu—"Diofol ydi dim." Yn debyg i hynny yr oedd bwrdeisiaid Niwbwrch yn nheyrnasiad Harri VIII., a'i fab Edward VI., pan yr atolygasant ar y Llywodraeth eu gwaredu oddiwrth eu breintiau.
Ychydig sydd ar gael o hanes bywyd cymdeithasol yn Niwbwrch yn y cyfnod tywyll rhwng yr adeg y rhoisant eu breintiau i fyny, a'r amser y dechreuodd rhyw fath o adfywiad gynhyrfu y lle.
8. YR ADFYWIAD CYNTAF
Nodweddion amlyccaf hynafiaethau ydynt y bylchau aml sydd yn eu muriau, y toriadau yn eu cadwynau, a'r dyryswch yr hwn y mae eu hedafedd ynddo. Ond y mae rhyw swyn anghyffredin mewn dyrysbeth (puzzle) fel y mae pob oedran o'r baban i'r henafgwr yn ymhyfrydu yn y gwaith o ddattod cylymau, deongli dychymygion, a chysylltu 'r darnau gwasgaredig yn un gwaith gorphenedig. Yr wyf yn sicr mai y dolennau anghysylltiol yn gorwedd ar wahau heb y dolennau i'w cysylltu sydd yn ennyn prif ddyddordeb y personau hynny a geisiant ffurfio egwyddor (alphabet) iaith ddyrys llyfr y gorphennol.
I wneud yr hyn geisiaf ei ddangos yn fwy eglur, rhoddaf engraifft o'm profiad fy hun ynglyn â hynafiaethau Niwbwrch. Wrth i ddyn sylwi ar hen adeiladau sydd eto heb eu tynnu i lawr yn y lle, y mae yn synnu a phetruso oherwydd fod cynifer o hen blâsau mewn pentref o ymddangosiad mor ddinod. Y mae rhai o'r hen dai a gyfrifid yn enwog wedi eu hailadeiladu yn llawer o dai cyffredin; ond y mae yno rai yn aros hyd heddyw, megis y Plas Uchaf, yn Heol Malltraeth; Sign Hare, yn yr un heol; a'r Plas Newydd, yn Heol Pendref. Nid oes angen am i mi enwi rhai o hynodrwydd llai. Y mae yno dai mawrion wedi eu hadeiladu ar leiniau bychain o dir fel pe buasai yr adeiladwyr ryw dro yn methu cael lle i