Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeiladu, hynny yw, lle digon helaeth i gyfateb i'r adeilad; a pheth hynod arall sydd yn codi o flaen llygad y craff ydyw amledd perchenogion mewn lle mor fychan. Yr wyf yn credu pe chwilid yn fanwl y ceid fod yno dŷ yn perthyn i bob tirberchennog ym Môn, hynny yw, ar gyfer pob etifeddiaeth oedd yn y Sir ryw ddau cant a hanner o flynyddoedd yn ol. Mae hyn yn sicr, sef bod yno dai yn perthyn i dirfeistri oedd heb un cysylltiad arall rhyngddynt a'r lle.

Nodaf un neu ddwy o esiamplau: y mae yma dŷ a gardd yn perthyn i etifeddiaeth Penrhos, Caergybi; yr oedd tŷ a thir Tyddyn Bagnall yn perthyn i Blas Newydd, Llanedwen; ac y mae clwt bychan yn agos i'r Groes yn perthyn i etifeddiaeth Madryn. Gallwn enwi llawer eraill y rhai a berthynnent i ryw etifediaeth neu gilydd, yr hyn sy'n myned ymhell i brofi fod yn y fwrdeisdref ar un adeg, dŷ yn perthyn i bob tirberchennog oedd ym Môn ar y pryd.

Y peth a achosai anhawsder mawr i mi oedd y gwaith o geisio cysoni bodolaeth adeiladau mor ardderchog a chostus yn ddiau, â'r sefyllfa dlodaidd yr oedd Niwbwrch ynddi yn y cyfnod yr adeiladwyd hwynt. Deisebodd y bwrdeisiaid am eu rhyddhad, yr hyn a gawsant yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Edward VI.,(1548.) Pe buasai 'r plâsau y cyfeiriwyd atynt wedi eu hadeiladu cyn 1548, ni fuasai un rhwystr yn bod mewn perthynas iddynt, oblegid buasai 'n hawdd casglu mai bwrdeisiaid cyfoethog a'u hadeiladasent ynghyfnod llwyddiannus y fwrdeisdref. Ond rywbryd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg yr adeiladwyd y Plas Uchaf fel ag y gwelir wrth sylwi ar yr arfbais gerfiedig ar garreg yn y mur. Methais a chael darlun eglur o'r arfbais, ond y mae'r ganrif a'r rhifnod olaf (16+1) yn ddarllenadwy.

Pan dynwyd yr hen Dy'n y coed, i lawr gosodwyd y garreg a'r flwyddyn yn gerfiedig arni uwch ben drws y ty newydd, a 1621. sydd ar y garreg honno.

Paham yr adeiladwyd yr holl dai mawrion hynny yn Niwbwrch ar ol iddi ymddiosg o'r breintiau, a phan